Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Dementia Cynnar

Brain shape with lit-up nerve structures

Mae’r Gwasanaeth Dementia Cynnar yn wasanaeth arbenigol ac ymroddedig i bobl sy’n derbyn diagnosis o ddementia o dan 65 oed, ac i’w gofalwyr a’u teuluoedd.

Yn ôl Cymdeithas Alzheimer, mae dros 17,000 o bobl iau â dementia yn y DU (806 yng Nghymru). Fodd bynnag mae’n dadlau bod y rhif hwn yn debygol o fod yn amcangyfrif is na’r gwir ffigwr, a allai fod hyd at deirgwaith yn uwch.

Mae’r gwasanaeth hwn, sydd wedi’i gynllunio’n benodol i ddiwallu anghenion pobl iau â dementia, a’u gofalwyr a’u teuluoedd, yn angenrheidiol oherwydd efallai y bydd gan bobl iau â dementia anghenion gwahanol i bobl hŷn. Gallant fod:

 

  • Yn gweithio ar adeg y diagnosis
  • Â phartner sy’n dal i weithio
  • Â phlant dibynnol yn dal i fyw gartref
  • Â rhieni sy’n heneiddio y mae angen iddynt ofalu amdanynt
  • Ag ymrwymiadau ariannol, fel morgais
  • Yn fwy actif a ffit yn gorfforol
  • Yn fwy ymwybodol o’u salwch yn ystod y camau cynnar
  • Yn ei chael hi’n anodd derbyn ac ymdopi â cholli sgiliau mor ifanc.

 

Gall hynt y salwch fod yn wahanol hefyd gan ei fod yn debygol o ddatblygu’n gyflymach mewn oedolion o oedran gweithio a bod yn fwy cymhleth a heriol o ran ei amlygiad.

Yn ogystal, mae’n fwy cyffredin cael diagnosis o fathau mwy prin o ddementia.

 

Cysylltu â'r Gwasanaeth

Os hoffech wybod mwy am Wasanaeth Dementia Cynnar Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â ni:

 

Gwasanaeth Dementia Cynnar

Uned Cariad
Ysbyty’r Barri
CF62 8YH

01446 454200

Yod.Service@wales.nhs.uk

Fel arall, os oes angen i chi siarad â rhywun am eich sefyllfa, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Dementia Cymru ar 0808 808 2235.

Dilynwch ni