Neidio i'r prif gynnwy

Hyb Therapi Seicolegol

Mae'r 'Hyb' yn darparu therapi seicolegol mewn fformat grŵp ac unigol, gan gynnwys grwpiau Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) ar gyfer ystod o anhwylderau gorbryder, gan gynnwys Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol, Anhwylder Panig, Gorbryder Iechyd ac Anhwylder Gorbryder Cyffredinol, grŵp sgiliau rheoli emosiynau a grŵp lleihau straen yn seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar.

Mae'r Hyb Therapi Seicolegol yn darparu CBT unigol ar gyfer Gorbryder Cymdeithasol, cyflwyniadau cymhleth a ffobiâu penodol.

 

Sut fyddwn i'n cael fy atgyfeirio?

Mae'r Hyb Therapi Seicolegol yn derbyn atgyfeiriadau gan wasanaethau Iechyd Meddwl Rhan 1 a Rhan 2 yn dilyn asesiad cychwynnol.

Mae hyn yn golygu, yn dilyn apwyntiad gyda'ch meddyg teulu, y byddant yn eich atgyfeirio am asesiad gyda'r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol (PMHSS) neu'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (CMHT) a allai nodi angen am therapi seicolegol. Os yw hyn yn wir, cewch eich atgyfeirio at yr Hyb Therapi Seicolegol.

 

Beth sy'n digwydd ar ôl atgyfeirio?

Bydd yr Hyb Therapi Seicolegol yn adolygu eich manylion atgyfeirio. Cewch eich ychwanegu at ein rhestr aros ar gyfer asesiad a chysylltir â chi i drefnu apwyntiad asesu (a chynigir dewis o apwyntiad wyneb yn wyneb neu fideo).

 

Beth sy'n digwydd yn yr apwyntiad wyneb yn wyneb hwn?

Byddwch yn cwrdd â therapydd o'r tîm a fydd yn asesu eich anghenion.

Os teimlir y gallwn gynnig therapi seicolegol addas i chi, bydd hyn yn cael ei drefnu yn ystod yr asesiad.

Os ydych chi a'r therapydd yn credu na fydd y therapïau a gynigiwn yn ddefnyddiol, bydd y therapydd yn eich helpu i nodi llwybr arall.

Weithiau bydd angen i'r therapydd drafod yr asesiad gyda gweddill y tîm cyn gwneud penderfyniad. Bydd hyn yn cael ei gyfleu i chi cyn gynted â phosibl.

 

Beth yw CBT?

Mae CBT yn driniaeth strwythuredig sy'n seiliedig ar dystiolaeth y dangoswyd ei bod yn effeithiol ar gyfer trin nifer o anhwylderau gorbryder ac iselder.

Mae CBT yn ein helpu i ddeall y rhyngweithio rhwng ein meddyliau, ein teimlad a'n hymddygiad a sut mae'r cysylltiadau hyn yn cynnal y problemau a wynebwn. Mae hefyd yn caniatáu inni ddysgu strategaethau a thechnegau i oresgyn y rhain.

 

Beth mae'n ei gynnwys?

Yn gyffredinol, mae triniaeth unigol yn gofyn am bresenoldeb wythnosol mewn sesiwn 1 awr dros 12 wythnos.

Mae triniaeth grŵp yn gofyn am bresenoldeb wythnosol mewn sesiwn 2 awr drwy gydol y cwrs (10 wythnos fel arfer). Mae'r ddau fath o driniaeth yn gofyn am barodrwydd i gymryd rhan lawn a neilltuo amser i ymarfer y technegau rydych wedi'u dysgu rhwng sesiynau.

 

Pryd a ble mae'r driniaeth yn digwydd?

Fel arfer yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, weithiau mewn Canolfannau Iechyd ac ar wahanol adegau o'r wythnos.

 

Ysbyty Brenhinol Caerdydd, Heol Glossop, Caerdydd, CF24 0SZ

02921832243

Dilynwch ni