Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Brys (y Tu Allan i Oriau)

Mae'r Gwasanaeth Brys y Tu Allan i Oriau yn darparu gofal meddygol brys i gleifion nad allant aros nes y tro nesaf y bydd eu meddygfa deulu ar agor. 

Nid yw gofal brys yn cynnwys mân afiechydon fel peswch, annwyd, trwyn llawn ac ati. Gellir trin y rhain drwy hunanofal neu drwy ymweld â'ch fferyllfa gymunedol.

Mae gwefan GIG 111 Cymru yn darparu ystod o wybodaeth am gyflyrau iechyd a salwch, gwiriwr symptomau a chanllawiau ar bwy i gysylltu â nhw i gael y gofal iawn, y tro cyntaf. 

Dylech fynd i wefan GIG 111 Cymru fel man cychwyn os ydych yn teimlo’n sâl ac yn ansicr o’ch symptomau neu’n ansicr at bwy y dylech fynd i gael help. 

Gallwch gael at y gwasanaeth brys y tu allan i oriau drwy ffonio 111 pan fydd eich meddygfa deulu ar gau ac ni allwch aros iddi ailagor. Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.

 

 

Pryderon ac Adborth am y Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a'r Fro bob amser yn ceisio gwella gwasanaethau ac er mwyn gwneud hyn mae angen inni glywed gennych chi. Rydym hefyd yn croesawu eich ymholiadau am unrhyw beth a allai fod o ddiddordeb i chi, neu unrhyw beth yr hoffech wybod rhagor amdano.  

Beth i'w wneud os bydd gennych unrhyw bryderon neu glod am y gwasanaeth. 
 

Dilynwch ni