Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi'r rhai y mae argyfwng Wcráin yn effeithio arnynt

Ukraine Flag

Gweld y dudalen hon yn Wcreineg | Перегляньте цю сторінку українською мовою

Rydym yn meddwl am bawb y mae’r argyfwng sy’n mynd rhagddo yn Wcráin yn effeithio arnynt. Mae hwn yn gyfnod hynod bryderus a thrallodus i gymunedau ledled y byd, ac mae gan lawer o staff ac aelodau o'n cymuned gysylltiadau agos â theulu a ffrindiau yn Wcráin.

Mae degau ar filoedd o bobl o Wcráin wedi gorfod gadael eu cartrefi ac mae llawer yn chwilio am ddiogelwch a noddfa yn y DU a Chymru drwy’r  Cynllun Teuluoedd o Wcráin a’r cynllun Cartrefi i Wcráin.

Rydym yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r rhai sy’n cyrraedd Caerdydd a Bro Morgannwg, gan gynnig cymorth gofal iechyd yn uniongyrchol.

Rydym hefyd yn rhannu'r ystod o adnoddau canlynol i helpu pobl i gael mynediad at ofal iechyd a chymorth iechyd meddwl.

 

Adnoddau

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu llinell gymorth sy'n cynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth i'r rhai sy'n cyrraedd o Wcráin.

Ffoniwch 0808 175 1508 neu defnyddiwch +44(0) 20 4542 5671 os ydych yn ffonio o'r tu allan i'r DU.

Cymorth gan Lywodraeth Cymru i bobl yr effeithir arnynt

Gwefan Noddfa Llywodraeth Cymru

Mynediad at ofal iechyd

Practisau meddygon teulu

Bydd Wcreiniaid sy'n cyrraedd Cymru yn gallu cael mynediad at ofal iechyd y GIG yn rhad ac am ddim gan gynnwys ymgynghoriadau gan feddygon teulu a nyrsys, gwasanaethau ysbyty a mynediad at ofal brys. Bydd Wcreiniaid sy'n dod i'r DU hefyd yn cael cynnig brechlynnau COVID-19 a gwasanaeth sgrinio iechyd y cyhoedd.

Taflen wybodaeth ar sut i gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg (Saesneg)

Lawrlwythwch Gerdyn Cofrestru Meddyg Teulu i gofrestru a derbyn triniaeth gan bractis meddyg teulu yng Nghymru


GIG 111 Cymru

Mae GIG 111 Cymru yn darparu cyngor iechyd a mynediad at ofal brys nad yw'n argyfwng.

Gwiriwch eich symptomau a chael cyngor iechyd ar-lein (Cymraeg a Saesneg)

Ffoniwch 111 am ddim o'ch ffôn symudol neu linell dir a siaradwch â chynghorydd yn Gymraeg, Saesneg neu un o dros 120 o ieithoedd drwy wasanaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd dros y ffôn. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud pan fyddwch yn galw yw nodi yn Saesneg yr iaith y byddai'n well gennych ei defnyddio.


Gwasanaethau mewn Argyfwng

Ar gyfer argyfyngau sy’n bygwth bywyd, ffoniwch 999. Bydd y gweithredwr yn rhoi gwybod beth i'w wneud neu ble i fynd nesaf.

 

Cymorth Iechyd Meddwl

C.A.L.L. Llinell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru

Mae'r llinell gymorth yn darparu cymorth a gwybodaeth i unrhyw un sy'n dioddef trallod meddwl yn ogystal â'u teuluoedd a'u ffrindiau.

Gweld yn Wcreineg 

Gweld yn Gymraeg a Saesneg

Gweld yn Rwseg  


Pecyn Cymorth y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl

Yn cefnogi pobl sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig.

Gweld y pecyn cymorth yn Wcreineg

Gweld y pecyn cymorth yn Saesneg

Gweld y pecyn cymorth yn Rwseg

 

Staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Gall staff ddarganfod sut y gallant helpu i gefnogi'r rhai y mae'r sefyllfa yn Wcráin yn effeithio arnynt a chael cymorth eu hunain drwy ymweld â'n mewnrwyd.

Noder: Bydd y ddolen hon ond yn gweithio os byddwch yn edrych arni ar ddyfeisiau’r Bwrdd Iechyd.

Dilynwch ni