Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrwyr

 

 

Mae cofrestru gyda meddyg teulu yn agos at eich cyfeiriad yn ystod y tymor yn bwysig er mwyn sicrhau y gallwch gael mynediad at ofal iechyd a chyngor os oes ei angen arnoch tra eich bod yn y brifysgol.

Os ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru, byddwch hefyd yn gallu cael presgripsiynau a gwasanaethau GIG Cymru am ddim gan fferyllydd cymunedol lleol.

Mae cofrestru gyda meddyg teulu yn hawdd; casglwch ffurflen o’r practis ei hun, neu edrychwch ar wefan y practis i weld a yw’n bosibl cofrestru’n uniongyrchol ar-lein. Gallwch ddod o hyd i bractis yn agos at eich cyfeiriad newydd trwy glicio ar y ddolen hon.

I gofrestru gyda Meddyg Teulu, bydd angen:

  • eich tref a’ch gwlad enedigol
  • eich cyfeiriad yn ystod y tymor
  • cyfeiriad eich practis meddyg teulu blaenorol
  • unrhyw hanes meddygol diweddar yn ymwneud ag alergeddau, meddyginiaeth, ystadegau hanfodol, dewisiadau ffordd o fyw neu unrhyw ddiagnosis neu driniaeth barhaus

Mae eich fferyllfa leol yn gwneud mwy na dosbarthu meddyginiaeth ar bresgripsiwn, gallant gynnig cyngor, triniaeth ac ystod o wasanaethau clinigol y GIG sydd i gyd am ddim o'r eiliad y byddwch yn eu defnyddio, heb fod angen gweld eich meddyg teulu.

Gallwch gael cyngor a thriniaeth o dan y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin. Dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth am y cyflyrau sydd i’w gweld o dan y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin.

Gallwch gael gafael ar wasanaethau atal cenhedlu, gan gynnwys meddyginiaeth atal cenhedlu brys a meddyginiaeth atal cenhedlu rheolaidd drwy’r geg o rai fferyllfeydd cymunedol yng Nghaerdydd a'r Fro.

Mae rhai fferyllwyr yng Nghaerdydd a’r Fro hefyd yn gallu rhagnodi meddyginiaethau ar gyfer mân gyflyrau iechyd, fel heintiau’r glust, dolur gwddf ac UTI heb fod angen i chi siarad â meddyg teulu yn gyntaf.

Mae'r Cyflenwad Meddyginiaethau Brys hefyd ar gael mewn rhai fferyllfeydd cymunedol, sy’n golygu y gallwch gael gafael ar gyflenwad brys o'ch meddyginiaethau presgripsiwn yn unig mewn sefyllfaoedd brys.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael yn eich fferyllfa gymunedol leol a sut i gael mynediad at y gwasanaethau hyn ar gael ar y dudalen we hon.

 

Mae Gofal Sylfaenol yn aml yn cael ei ystyried yn ‘ddrws blaen’ i’r gwasanaeth gofal iechyd; y tîm gofal iechyd yn y gymuned fydd eich man cyswllt cyntaf ar gyfer symptomau a chyflyrau newydd.

Mae eich tîm Gofal Sylfaenol yn cynnwys Meddygon Teulu, Nyrsys Ymarfer Cyffredinol, Fferyllwyr Cymunedol, Optometryddion, Deintyddion a thimau Gofal Brys y Tu Allan i Oriau. Mae Dewis Sylfaenol wedi’i ddatblygu i’ch helpu i ddeall pa aelod o’r tîm Gofal Sylfaenol all eich helpu, er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich gweld gan y person iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf.

Mae gwybod pwy yw eich tîm Gofal Sylfaenol a sut i gael gafael arnynt yn bwysig - nid eich meddyg teulu yw’r person iawn i droi ato ar gyfer pob cyflwr.

I ddarganfod mwy am Ddewis Sylfaenol ac i gwrdd â’ch tîm Gofal Sylfaenol, ewch i’r dudalen we bwrpasol hon.

Mae GIG 111 Cymru ar gael 24 awr y dydd a gellir cael mynediad ato ar-lein a thrwy ffonio’r gwasanaeth yn uniongyrchol am ddim.

Mae gwefan GIG 111 Cymru yn darparu ystod o wybodaeth am gyflyrau iechyd a salwch, gwiriwr symptomau a chanllawiau ar bwy y gallwch gysylltu â nhw i gael y gofal iawn, y tro cyntaf.

Yng Nghaerdydd, GIG 111 Cymru yw’r llwybr y byddech yn ei ddilyn pe bai angen i chi fynd i’r Uned Achosion Brys, yr Uned Mân Anafiadau neu gael mynediad at ofal y Tu Allan i Oriau.

Os yw eich cyflwr iechyd yn un brys, ond nid yw’n bygwth bywyd, yna dylech ffonio 111 yn gyntaf cyn mynd yno.

Drwy ffonio 111, bydd swyddog galwadau yn asesu eich cyflwr ac yn eich helpu i gael y cymorth iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf. Bydd y sawl sy’n galw yn derbyn cyngor iechyd dros y ffôn ac os oes angen asesiad pellach, bydd clinigwr o CAF 24/7 yn eich ffonio’n ôl.

Cofiwch mai dim ond mewn argyfwng sy’n bygwth bywyd y dylech chi ffonio 999. Felly, os nad yw’n argyfwng sy’n bygwth bywyd, defnyddiwch 111.

Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch, gallwch nawr ffonio 111 a phwyso opsiwn 2.

Mae 111 Pwyswch 2 ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ac mae yno i gefnogi unigolion ledled Caerdydd a'r Fro sy'n profi argyfwng iechyd meddwl, neu sydd ddim yn siŵr pa help sydd ar gael i'w cefnogi gyda'u hiechyd meddwl.

Gallwch ffonio’r rhif am ddim o linell dir neu ffôn symudol ac mae ar gael i unrhyw un sy'n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Mewn sefyllfaoedd lle mae bywyd yn y fantol, ffoniwch 999 bob amser neu ewch i’r Uned Achosion Brys agosaf

Gallwch archebu condomau gan Cymru Chwareus

Gallwch hefyd gael cerdyn condom neu Gerdyn C gan yr YMCA neu ffoniwch y tîm SHOT ar 02920 465250. 

Ffoniwch Glinig Iechyd Rhywiol Caerdydd ar 02920 335208. 

Mae fferyllfeydd yn darparu dulliau atal cenhedlu hormonaidd brys, dewch o hyd i’ch fferyllfa agosaf

Mae dulliau atal cenhedlu drwy’r geg ar gael mewn fferyllfeydd dethol yng Nghaerdydd a’r Fro

Ewch i Cymru Chwareus i gael gwybodaeth am y gwahanol fathau o ddulliau atal cenhedlu sydd ar gael. 

Cael prawf yw’r cam cyntaf i amddiffyn eich hun ac eraill rhag STIs a HIV. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy ffonio Clinig Iechyd Rhywiol Caerdydd ar 02920 335208. 

Gallwch hefyd archebu pecyn prawf cartref cyfrinachol am ddim gan Cymru Chwareus, i brofi am HIV a STIs eraill gan gynnwys Clamydia, Gonorea, Siffilis, Hepatitis B a Hepatitis C. 

Gallwch ffonio’r Gwasanaeth Cynghori ar Feichiogrwydd ar 02921 842638. Mae llinell trefnu apwyntiadau benodol ar gyfer pobl a hoffai gael cyngor am feichiogrwydd heb ei gynllunio. Gallwch hefyd lenwi’r ffurflen atgyfeirio ar-lein a byddwch yn clywed gennym o fewn wythnos. 

Ewch i Cymru Chwareus i gael rhagor o gyngor am eich opsiynau a ble i gael cymorth. 

Ffoniwch Glinig Iechyd Rhywiol Caerdydd ar 02920 335208. 

Ewch i Cymru Chwareus i ddysgu mwy am PrEP

Ffoniwch Glinig Iechyd Rhywiol Caerdydd ar 029203 35208. 

Ewch i Cymru Chwareus i ddysgu mwy am HIV

Dilynwch ni