Darllenwch y newyddion diweddaraf am y gwobrau a'r enwebiadau mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a'n staff wedi'u derbyn.
Mae Radio Ysbyty Morgannwg wedi dyfarnu aelodaeth anrhydeddus am oes i'w wirfoddolwr hynaf, i gydnabod ei ymroddiad eithriadol a'i wasanaeth hirhoedlog i'r orsaf.
Mae Charlotte yn gweithio o fewn y Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Ar ôl gweithio yn y diwydiant prostheteg ers iddi fod yn 18 oed a gweithio ei ffordd i fyny dros y blynyddoedd, mae hi bellach yn Brif Dechnegydd Prosthetig.
Yn ddiweddar, gwnaeth gwasanaeth Podiatreg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ennill y Wobr Ymyrraeth Traed Diabetig Orau yng Ngwobrau’r Journal of Wound Care 2025. Llwyddodd y tîm i ennill cystadleuaeth ryngwladol gref, gyda'r Eidal a Singapore hefyd yn agos at y brig.
Mae gwobrau blynyddol VSL yn cydnabod, yn gwobrwyo ac yn dathlu'r gwaith caled a'r ymroddiad sy'n mynd i mewn i raglenni imiwneiddio ledled Cymru
Cafodd cydweithwyr ar draws y Bwrdd Clinigol Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chanolraddol (PCIC) eu cydnabod am eu cyflawniadau a'u gwaith caled yn y Digwyddiad Cydnabod a Dathlu Staff blynyddol.
Ei nod yw sefydlu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fel sefydliad angori o fewn y gymuned leol i gynyddu’r cyfleoedd cyflogaeth i’r rhai sy’n cael eu tangynrychioli yn y gweithlu.
Yr wythnos diwethaf mewn seremoni yn y Senedd, derbyniodd yr Offthalmolegydd Pediatrig Ymgynghorol Patrick Watts y Wobr Gwasanaeth Cyhoeddus yng Ngwobrau Dewi Sant Llywodraeth Cymru, a gyflwynwyd gan Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan.
Magwyd yr Athro Zaheer Yousef ar ystad tai cyngor yn Llundain ar ôl i'w deulu symud yno o Affrica. Tra yn yr ysgol feddygol nid oedd yn hyderus y gallai fynd i mewn i faes cystadleuol cardioleg. Bellach yn Gardiolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac yn meddu ar restr drawiadol o gyflawniadau, mae Zaheer yn paratoi i fynd i Gastell Windsor ym mis Mawrth i dderbyn Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) am ei wasanaethau i fethiant y galon.
Mae cydweithwyr o bob rhan o’r Bwrdd Clinigol Plant a Menywod wedi cael eu cydnabod am eu hymroddiad eithriadol, eu gwaith caled a’u hangerdd dros gefnogi cleifion a’u teuluoedd yn y Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff blynyddol.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.