Neidio i'r prif gynnwy

Lle Gwych i Fyw a Gweithio

Pam Dewis Caerdydd?

Mae Caerdydd yn ddinas o gyferbyniadau. Mae castell a chanddo 1900 mlynedd o hanes yn sefyll ochr yn ochr â chanolfan siopa fodern a Chanolfan Ddinesig drawiadol wedi'i hamgylchynu gan erwau o barcdir.

Mae datblygiad glannau Bae Caerdydd yn ymestyn ar hyd wyth milltir ac wedi creu amrywiaeth o fflatiau, bariau a bwytai newydd.

I'r rhai sy'n chwilio am ddiwylliant, mae Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Werin Cymru a Chanolfan y Mileniwm, sy'n gartref i Opera Cenedlaethol Cymru, o fewn cyrraedd rhwydd.

Mae Caerdydd yn ffodus iawn o fod wedi'i hamgylchynu gan ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Penrhyn Gŵyr Abertawe a Bro Morgannwg ddeniadol oll gerllaw.

Mae prisiau tai'n rhesymol, ac mae ein hysgolion yn cynnig safon uchel o addysg a chyfleusterau.

Gall yr Adran Lety yn y Bwrdd Iechyd Prifysgol gynnig cymorth i aelodau staff newydd sydd eisiau adleoli i Gaerdydd.

Dysgwch fwy am fyw yng Nghaerdydd 

Bro Morgannwg

Mae Bro Morgannwg, sydd wedi'i lleoli i'r gorllewin o Gaerdydd, yn cynnig cymysgedd o fryniau tonnog, trefi a phentrefi dymunol, a morlin naturiol dramatig sy'n cynnwys rhan o Arfordir Treftadaeth Morgannwg. 

Dysgwch fwy am Fro Morgannwg

Dilynwch ni