Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn Gwasanaethau Cyswllt

O fewn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn, mae gennym dimau penodol sydd ar gael i gefnogi ein defnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr gyda’u hanghenion. Dyma’r gwasanaethau sydd ar gael:

REACT

Mae tîm REACT yn wasanaeth amlddisgyblaethol sy’n cynnig ymateb cyflym ar gyfer asesu a darparu triniaeth ddwys yn y cartref i bobl dros 65 oed sy’n profi anawsterau iechyd meddwl neu ddementia.

Mae’r tîm hefyd yn cefnogi cleifion mewnol pan fyddant yn cael eu rhyddhau, lle mae’n bosibl y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt i’w helpu i ymgartrefu yn ôl yn y gymuned. Mae’r tîm hefyd yn cefnogi cleifion a’u gofalwyr pan allai gofalwyr fod o dan bwysau gormodol ac yn methu ag ymdopi, neu pan fo’r gofalwyr yn cael trafferth yn diwallu’r anghenion bioseicogymdeithasol sy’n deillio o ddementia eu hanwyliaid.

Mae’r tîm yn ymgymryd ag atgyfeiriadau mewn argyfwng 4 awr ac atgyfeiriadau cymunedol brys 48 awr. Gwneir pob atgyfeiriad sy’n argyfwng (4 awr) a brys (48 awr) yn ystod dyddiau’r wythnos gan feddygon teulu drwy linell ffôn atgyfeirio meddygon teulu y Gwasanaeth Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn (MHSOP).

Mae tîm REACT yn gweithio ar y cyd â’r Gwasanaeth Dwysedd Uchel Ychwanegol (EHIS), sy’n rhan o Wasanaeth Dydd y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn (MHSOP) yn Ysbyty Athrofaol Llandochau (UHL). Mae’r gwasanaeth hwn yn galluogi i asesiad gael ei gynnal dros 5 diwrnod yn olynol i gael gwell dealltwriaeth o batrymau ymddygiad unigolyn, sbardunau ac unrhyw heriau o ran cyflawni gweithgareddau bywyd beunyddiol. Mae’r ddau wasanaeth hefyd yn gweithio ar y cyd i gefnogi gofalwyr.

Mae’r tîm ar gael yn ystod yr amseroedd canlynol:

  • 8.30am – 8.00pm (Dydd Llun i Ddydd Gwener)
  • 9am – 5pm (Dydd Sadwrn, Dydd Sul a Gwyliau Banc)

 

Tîm Cyswllt â Chymunedau

Diben y tîm yw pontio’r bwlch rhwng gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd a chynnig arbenigedd iechyd meddwl i dimau eraill. Trwy weithio ar y cyd â darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol ac ymarferwyr cymunedol, mae’r tîm yn gallu adnabod pobl hŷn ag anghenion iechyd meddwl yn gynnar. Mae’r tîm yn cynnig cyngor arbenigol, cefnogaeth a chyfeirio amserol. Mae’r gwasanaeth hwn hefyd yn darparu cymorth ac addysg i ofalwyr, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, ynghylch rheoli ymddygiad ac agweddau cadarnhaol at ofalu am bobl â Dementia.

 

Tîm Cyswllt â Chartrefi Gofal

Mae’r tîm Cyswllt â Chartrefi Gofal yn cefnogi pobl dros 65 oed sy’n byw mewn un o dros 70 o leoliadau preswyl a chartrefi nyrsio ar draws Caerdydd a’r Fro. Maent yn cyflawni nifer o swyddogaethau gan gynnwys:

  • Sicrhau bod lleoliadau’n gallu ymdopi a ddim o dan straen trwy asesu preswylwyr, argymell a gwerthuso’r defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig
  • Darparu addysg i staff cartrefi gofal mewn agweddau cadarnhaol at ofal a dealltwriaeth o’r achosion mwy cymhleth o Ddementia
  • Asesu a chefnogi’r rhai sy’n wynebu dirywiad yn eu hiechyd meddwl

Yn ogystal, maent yn gyfrifol am adolygu’r unigolion hynny o dan adran 117 y Ddeddf Iechyd Meddwl (MHA) a chefnogi ceisiadau Gofal Iechyd Parhaus.

Dilynwch ni