Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth


Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS) Caerdydd a’r Fro yn wasanaeth awtistiaeth arbenigol amlasiantaeth gyda staff o’r awdurdod iechyd a’r awdurdod lleol. Sefydlwyd y gwasanaeth yn dilyn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig ledled Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cydweithio’n agos â sefydliadau lleol eraill, ac Arweinydd Prosiect strategaeth Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) Caerdydd a’r Fro. 

Ein dwy rôl gyffredinol yw: 

  • Cysylltu â gwasanaethau prif ffrwd i wella eu sgiliau wrth weithio gyda phobl awtistig 

  • Cynnig gwasanaethau diagnostig a chymorth i bobl awtistig a’u gofalwyr na fyddai eu hanghenion yn cael eu diwallu gan wasanaethau eraill fel arall. 

 

 



Ein Gwasanaethau
 

 


Cysylltu â ni


Oriau agor: 

Dydd Llun i ddydd Iau 9.30yb - 4.30yp
Dydd Gwener 9.30yb - 4.00yp

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.

Ffoniwch ni ar: 07970 647820 (Cyfeiriwch at y wybodaeth uchod sydd wedi'i diweddaru)

Ysgrifennwch atom ar: 
Gweinyddwr y Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth (IAS)
Avon House
19 Stanwell Road
Penarth
CF64 2EZ

E-bostiwch ni ar: CAV.IAS@wales.nhs.uk

Dilynwch ni