Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Argyfwng

Mae'r Gwasanaeth Argyfwng yn cynnwys nifer o wahanol feysydd:

  • Ystafelloedd Asesu Argyfwng (EAS), Hafan y Coed, YAC (029 2182 4691)
  • Ward Asesu Argyfwng (Cedar Ward), Hafan y Coed, YAC (029 2182 4710)
  • Timau Triniaeth Gartref Datrys Argyfwng (CRHTT) - Gogledd (029 2182 4950) a De (029 2182 4930) - yn Hafan y Coed, YAC
  • Uned Adfer Argyfwng (029 2074 4591), yn Ysbyty Athrofaol Cymru
  • Tŷ Argyfwng ar Park Road, yr Eglwys Newydd (029 2065 0340)
  • Gwasanaethau Cyswllt yn Ysbyty Athrofaol Cymru (029 2074 3940)

Sefydlwyd model y Gwasanaeth Argyfwng ym mis Ionawr 2014. Arweiniodd at newid radical yn y gwasanaethau a ddarperir i bobl mewn argyfyngau iechyd meddwl, a'r mwyaf arwyddocaol oedd sefydlu un pwynt mynediad i wasanaethau cleifion mewnol ar ffurf Ward Asesu Argyfwng.

Mae'r newid pwysig hwn yn y model gwasanaeth a'r ethos clinigol yn rhoi mwy o bwyslais ar gymryd risgiau cadarnhaol ac, os oes modd, rheoli mwy o bobl yng ngofal y Timau Datrys Argyfwng a Thriniaeth Gartref yn eu cartrefi eu hunain, neu gyda chymorth yr Uned Adfer Argyfwng a'r Tŷ Argyfwng. Dim ond os nad yw'r opsiynau hyn yn bosibl yr ystyrir derbyn claf i'r Ward Asesu Argyfwng.

Nod y Ward Asesu Argyfwng yw bod tîm amlddisgyblaethol yn darparu asesiad a thriniaeth amserol ac yn ffurfio Cynllun Gofal a Thriniaeth i gefnogi arhosiad byr i glaf mewnol neu, os oes angen, ei drosglwyddo i un o'r tair Ward Ardal: 

  • Willow Ward (029 2182 4780) yn Hafan y Coed, YAC
  • Beech Ward (029 2182 4666), Hafan y Coed YAC
  • Oak Ward (029 2182 4680) Hafan y Coed, YAC.
Dilynwch ni