Neidio i'r prif gynnwy

Telerau defnydd

Defnydd a ganiateir

Caiff ymwelwyr â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (y wefan hon) ganiatâd i gael mynediad at ddeunyddiau cyhoeddedig (cynnwys) yn amodol ar y telerau hyn. Drwy ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau defnyddio.

Er y gellir cyrchu, lawrlwytho a defnyddio cynnwys at ddibenion personol ac anfasnachol (e.e. ymchwil breifat, astudio neu ddefnydd mewnol); rhaid i ymwelwyr beidio ag atgynhyrchu nac ailgyhoeddi unrhyw ddeunydd o'r wefan hon heb ganiatâd gan y wefan/perchennog yr hawlfraint.

Mae delweddau, logos a graffeg a ddefnyddir ar y wefan hon yn eiddo i ni a/neu drydydd partïon. Ni ddylid defnyddio'r rhain heb gael caniatâd gan berchennog yr hawlfraint.

Rydych yn cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol sy'n ymwneud â'r wefan hon yn perthyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a, lle bo'n berthnasol, swyddogion cyswllt trydydd parti.

Gwybodaeth bersonol

Pan fyddwch chi’n darparu data sy’n datgelu eich hunaniaeth ar y wefan hon yn wirfoddol (gan gynnwys ffurflenni adborth, holiaduron ac ati), bydd yr wybodaeth hon ond yn cael ei defnyddio i ymateb i’ch ymholiadau ac at ddiben defnyddio’r wybodaeth honno. Dydyn ni ddim yn rhannu gwybodaeth defnyddwyr y wefan gyda thrydydd partïon.

Diogelu Data

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar gyfer feirysau. Fodd bynnag, argymhellir eich bod yn rhedeg rhaglen gwrth-feirws ar yr holl ddeunyddiau a lawrlwythir o'r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i'ch data neu system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy'n deillio o'r wefan hon.

Ymwadiad

Cymerir gofal i sicrhau bod cynnwys y wefan yn gywir. Serch hynny, darperir cynnwys ar gyfer gwybodaeth gyffredinol yn unig, ac rydych yn ei ddefnyddio ar eich menter eich hun. Ni fyddwn yn atebol am ddifrod neu golled sy'n deillio o unrhyw weithred neu hepgoriad sy'n deillio o ddefnyddio gwybodaeth ar y wefan hon.

Gwefannau allanol

Nid yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau cysylltiedig. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd o ran y cynnwys nac am ganlyniadau dilyn unrhyw gyngor a gynhwysir ar safleoedd o'r fath. Ni ddylid ystyried rhestru fel cymeradwyaeth o unrhyw fath.

Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig na newid cyfeiriad gwefan.

Drwy ychwanegu enw eich meddygfa byddwch yn cadw'r hawl i wrthod neu ddileu dolenni i unrhyw wefan.

Nodwedd Google Translate

Mae gwefannau GIG Cymru, sydd wedi galluogi Nodwedd Google Translate, yn cynnig cyfieithiadau a wneir gan Google™ Translate, gwasanaeth trydydd parti nad oes gan GIG Cymru reolaeth drosto. Nid yw tudalennau wedi'u cyfieithu yn rhan o'r wefan a gynhelir, ac nid oes ganddynt unrhyw ddolen i barth GIG Cymru.

Mae'r gwasanaeth hwn yn gyfieithiad cyfrifiadurol awtomataidd ac, felly, ni fydd yn gyfieithiad perffaith a bydd yn dueddol o gynnwys camgymeriadau na fyddai siaradwr dynol yn eu gwneud fel arall.

Dylid defnyddio'r cyfieithiad fel canllaw bras yn unig. Nid yw GIG Cymru mewn unrhyw ffordd yn derbyn atebolrwydd am gywirdeb y cyfieithiadau hyn nac unrhyw golled a achoswyd o ganlyniad iddynt. 

Diwygiadau i’r Dyfodol

Bydd newidiadau dilynol i'r telerau hyn ar gael ar y wefan hon.

Dilynwch ni