Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth i Gyn-filwyr

Gwasanaeth y GIG ar gyfer cyn-filwyr sydd â chyflwr iechyd meddwl yn sgil gwasanaethu yn y fyddin.

 

Beth yw GIG Cymru i Gyn-filwyr (VNHSW)?

Mae Gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr yn darparu asesiadau iechyd meddwl arbenigol a thriniaethau seicolegol a meddyginiaeth i gleifion allanol.

 

Ar gyfer pwy mae VNHSW?

Mae VNHSW yn wasanaeth iechyd meddwl sy’n rhoi blaenoriaeth i gyn-filwyr a milwyr wrth gefn sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog EF ac sydd â chyflwr iechyd meddwl sydd o bosibl yn gysylltiedig â gwasanaeth.

Mae cyn-filwyr weithiau’n datblygu problemau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â gwasanaeth a gall hyn ddigwydd am lawer o resymau, yn amrywio o brofiadau brawychus iawn, i anhawster wrth addasu i fywyd bob dydd.

NID OES angen i chi fod wedi gwasanaethu mewn rôl ymladd yn y Lluoedd Arfog i brofi problemau iechyd seicolegol sy’n gysylltiedig â gwasanaeth.

 

Ydych chi’n profi unrhyw un o’r canlynol ers gadael y gwasanaeth milwrol?

  • Nosweithiau di-gwsg?
  • Gwrthdaro aml gyda phartneriaid, aelodau o’r teulu a ffrindiau?
  • Anhawster ymdopi â thasgau o ddydd i ddydd?
  • Osgoi gweithgareddau cymdeithasol?
  • Teimlo eich bod wedi newid ers eich gwasanaeth milwrol?
  • Teimladau o euogrwydd neu gywilydd?
  • Symptomau iselder, pryder neu PTSD?
  • Ymdopi â symptomau trwy ddefnyddio alcohol, cyffuriau neu hunan-niweidio?

 

Beth all VNHSW ei gynnig?

Os yw’n briodol, byddwch yn cael cynnig asesiad cynhwysfawr wedi’i gynllunio i’n helpu i ddeall eich anawsterau er mwyn sefydlu’r ffordd orau o’ch helpu. Bydd yr asesiad yn cael ei gynnig ar-lein, gan ddefnyddio meddalwedd fideo-gynadledda diogel o’r enw Attend Anywhere. Yn dilyn yr asesiad, os cytunir ar hyn rhyngoch chi a’r Therapydd Cyn-filwyr, gall VNHSW gynnig therapi wyneb yn wyneb, dros fideo neu therapi Cerdded a Siarad (h.y. cyfarfod rhywle yn y gymuned am therapi). Bydd apwyntiadau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnig yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, lleoliad yng nghanol dinas sy’n hawdd ei gyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus.

 

Pwy all gyfeirio at VNHSW?

Croesewir cyfeiriadau oddi wrth:

  • Cyn-filwyr a Milwyr Wrth Gefn (hunan-atgyfeirio)
  • Gwasanaethau gofal sylfaenol (meddyg teulu, gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol)
  • Gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd (CMHT, gwasanaethau cleifion mewnol)
  • Sefydliadau trydydd sector (Y Lleng Brydeinig Frenhinol, Change Step ac ati)
  • Y Lluoedd Arfog (DCMHS)
  • Aelodau o’r teulu (gyda chaniatâd)
  • Unrhyw weithiwr proffesiynol arall sy’n gweithio gyda chyn-filwr neu’n ei gefnogi

 

Sut i gyfeirio at VNHSW

  1. Cwblhewch ein ffurflen atgyfeirio ar-lein ar www.veteranswales.co.uk a mynd i’r dudalen ‘atgyfeiriadau’ neu:
  2. Cysylltwch â’r brif swyddfa dros y ffôn neu drwy e-bost:
    • Ffôn: 029 2183 2261 (Llun-Gwener 9am - 5pm)
    • E-bost: admin.vnhswc&v@wales.nhs.uk

 

Sylwadau gan gyn-filwyr sy’n cael eu cefnogi gan VNHSW

“Dyma’r tro cyntaf i mi deimlo fy mod yn siarad â therapydd a oedd yn deall fy mhroblemau fel cyn-filwr”

 

“Roedd y driniaeth yn heriol, sy’n ddigon teg, ond mae wedi bod yn hynod effeithiol – hyd yn oed pan oeddwn weithiau’n credu na fyddai’n gweithio”

 

“Ar ôl deng mlynedd o ddiagnosis rydw i wedi gwneud cam mawr ymlaen nawr; yn lle bod yn y sefyllfa yn ystod ôl-fflachiau, rydw i nawr yn gallu gweld fy hun o’r tu allan sy’n hynod bwysig i mi”

 

“Roedd fy therapydd yn wych ac yn gwybod sut i drin y pynciau y siaradais amdanynt”

 

“Roedd fy therapydd yn gallu gwneud i mi weld pethau mewn ffordd wahanol a fy helpu i a fy nheulu i ddod yn agosach nag y buon ni erioed”

Dilynwch ni