Neidio i'r prif gynnwy

Timau Datrys Argyfwng a Thriniaeth yn y Cartref (Timau CRHT)

Mae’r Tîm Datrys Argyfwng (CRHT) yn dîm iechyd meddwl amlddisgyblaethol yn y gymuned sy’n anelu at ddarparu gwasanaeth asesu a thriniaeth diogel ac effeithiol yn y cartref fel dewis amgen i ofal cleifion mewnol.

Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn i drigolion Caerdydd a Bro Morgannwg sydd ag anawsterau iechyd meddwl sy’n profi problem iechyd meddwl acíwt.

Bydd y gwasanaeth Triniaeth yn y Cartref i Ddatrys Argyfwng yn:

  • Gweithredu fel porth i wasanaethau cleifion mewnol Iechyd Meddwl, gan asesu pobl â phroblemau iechyd meddwl acíwt yn gyflym a hwyluso atgyfeiriadau i’r gwasanaeth mwyaf priodol os oes angen.
  • Darparu triniaeth amlddisgyblaethol gyflym, ymatebol yn y gymuned 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, i bobl sy’n profi problemau iechyd meddwl.
  • Sicrhau bod pobl sy’n profi anawsterau iechyd meddwl acíwt, difrifol yn cael eu trin yn yr amgylchedd lleiaf cyfyngol, mor agos i’w cartrefi ag sy’n bosibl yn glinigol.
  • Darparu triniaeth ddwys yn y gymuned fel dewis amgen i ofal cleifion mewnol.
  • Parhau i ymwneud â’r unigolyn nes bod yr argyfwng wedi’i ddatrys a bod y person wedi’i gysylltu â gofal parhaus os oes angen.
  • Cymryd rhan weithredol mewn cynllunio i ryddhau cleifion a darparu gofal dwys yn y cartref neu mewn lleoliad priodol arall i hwyluso’r broses o ryddhau cleifion yn gynnar.

Bydd y CRHT yn hyrwyddo parhad a chysondeb gofal ac ymyrraeth i unigolion a’u gofalwyr, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau a sgiliau fel arfer am ddim mwy nag 8 wythnos. Os penderfynir ar fewnbwn CRHT y tu hwnt i hyn, dylai cyfarfodydd adolygu wythnosol rhwng CRHT, yr unigolyn, a’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol/Meddyg Teulu gael eu cynnal i sicrhau bod ffocws y gofal yn gywir.

 

Thriniaeth yn y Cartref

Gall triniaeth yn y cartref gynnig cefnogaeth ddwys ac ymweliadau aml os oes angen. Darperir hyn gan amrywiaeth o broffesiynau sy’n rhan o’r gwasanaeth gan gynnwys; nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, seicolegwyr, therapyddion galwedigaethol a seiciatryddion.

Mae’r Uned Adfer Argyfwng yn ategu’r cymorth hwn; gwasanaeth yn ystod y dydd sy’n darparu asesiad, ymyriad therapiwtig ac amgylchedd diogel 7 diwrnod yr wythnos. Mae’r Uned Adfer Argyfwng yn darparu asesiad, ymyriad therapiwtig a chymorth, mewn lleoliad heb bwysau, i bobl sy’n profi argyfwng iechyd meddwl. Y diben yw darparu asesiad a thriniaeth hyblyg ac ymatebol.

Yn ogystal, gall y tîm ddefnyddio Linden House, a ddarperir mewn partneriaeth â darparwr trydydd sector (Platfform), i ddarparu llety tymor byr tra dan ofal y tîm triniaeth yn y cartref. Bydd Linden House yn darparu llety argyfwng tymor byr i unigolion â salwch meddwl difrifol a pharhaus neu sy’n profi argyfwng gyda’u hiechyd meddwl. Nod y gwasanaeth yw atal y stigmateiddio posibl sy’n gysylltiedig â chael eich derbyn i’r ysbyty trwy greu amgylchedd diogel, cyfforddus a chefnogol sy’n ymateb i anghenion unigol. Mae Linden House yn wasanaeth 24 awr wedi’i staffio gan Weithwyr Cymorth a gyflogir gan Platfform a bydd yn cael ei gefnogi gan y Timau Datrys Argyfwng a Thriniaeth yn y Cartref.

Mae’r Tîm CRHT yn derbyn atgyfeiriadau uniongyrchol o wahanol ffynonellau gan gynnwys; Seiciatreg Gyswllt (gweithio mewn ysbytai cyffredinol), Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yr Heddlu, Timau Iechyd Meddwl Cymunedol a’r tîm Iechyd Meddwl 111.

Dilynwch ni