Rydym yn awyddus i hyrwyddo gwaith y Bwrdd Iechyd ac yn anelu at ymateb yn gadarnhaol ac yn agored i bob cais rhesymol.
Cyfeiriwch bob ymholiad gan y cyfryngau a chais am ffilmio at news@wales.nhs.ukyn y lle cyntaf, neu ffoniwch 02921 836052 os hoffech drafod eich cais.
Ein horiau swyddfa yw 8.30am i 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Dylid cyfeirio unrhyw alwadau gan y cyfryngau y tu allan i oriau swyddfa arferol at switsfwrdd y Bwrdd Iechyd ar 029 2074 7747.
Sylwch na chaniateir mynediad i’r cyfryngau i unrhyw un o’n hysbytai neu leoliadau cymunedol heb ganiatâd ymlaen llaw gan swyddfa’r wasg/tîm cyfathrebu’r Bwrdd Iechyd. Bydd swyddogion diogelwch yn gofyn i unrhyw gydweithwyr yn y cyfryngau y deuir o hyd iddynt ar eiddo’r Bwrdd Iechyd heb ganiatâd ymlaen llaw i adael ar unwaith.
Oherwydd nifer y ceisiadau gan y cyfryngau y mae’r Bwrdd Iechyd yn eu derbyn, yn anffodus ni allwn gynorthwyo newyddiadurwyr sy’n fyfyrwyr.