Neidio i'r prif gynnwy

Timau Iechyd Meddwl Cymunedol

Mae Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn gweithio mewn partneriaeth rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd ynghyd â darparwyr eraill yn y sector gwirfoddol. 

Mae'r Timau'n darparu gofal i oedolion o oed gwaith (18-65 oed) sydd â phroblemau iechyd meddwl ansefydlog cymedrol i ddifrifol.

Cynghorir bod unigolion sy'n cael anawsterau ysgafn i gymedrol neu'r rheini â symptomau sefydlog yn gweld y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol.

Yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, mae Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn gwasanaethu poblogaethau yn ôl eu meddygfa deulu.

Nod Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yw:

  • Hyrwyddo iechyd ac adferiad
  • Darparu ymateb lleol i bobl leol
  • Cyflenwi gofal unigol sy'n seiliedig ar anghenion unigolyn
  • Cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys asesu, diagnosis a thriniaeth
  • Defnyddio amrywiaeth o therapïau, technegau ac ymyriadau cymdeithasol 
Dilynwch ni