Neidio i'r prif gynnwy

GIG 111 Cymru

Mae GIG 111 Cymru ar gael yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Mae’r rhif syml, hawdd ei gofio a rhad ac am ddim yn rhoi mynediad i gleifion at gyngor a gwybodaeth gofal iechyd 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Mae GIG 111 Cymru yn cyfuno Galw Iechyd Cymru a’r gwasanaeth tu allan i oriau i gynnig gwybodaeth a chyngor am iechyd ynghyd â thriniaeth frys os yw eich cyflwr neu broblem yn un brys, ond nid yw’n achos sy’n bygwth bywyd.

Gall cleifion ledled Caerdydd a Bro Morgannwg gael mynediad at ofal brys, fel yr Uned Achosion Brys a’r Uned Mân Anafiadau, drwy ffonio 111.

 
Dilynwch ni