Neidio i'r prif gynnwy

GIG 111 Pwyswch 2

Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch, neu os nad ydych yn siŵr ble i droi i gael cyngor ac arweiniad ar eich iechyd meddwl, ffoniwch 111 a phwyswch 2.

Mae cymorth iechyd meddwl ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos drwy ffonio GIG 111 Cymru a dewis opsiwn 2.

Mae'n bwysig blaenoriaethu eich iechyd meddwl a'ch lles. Os oes angen i chi siarad â rhywun, neu os ydych chi'n poeni am rywun annwyl, mae 111 Pwyswch 2 ar gael i gynnig cyngor, arweiniad a chymorth brys.

Gallwch ffonio’r rhif am ddim o linell dir neu ffôn symudol ac mae ar gael i unrhyw un sy'n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Mewn sefyllfaoedd lle mae bywyd yn y fantol, ffoniwch 999 bob amser neu ewch i'r Uned Achosion Brys agosaf.

*Noder, nid gwasanaeth cwnsela yw 111 Pwyswch 2 ac nid yw'r tîm yn gallu cynnal adolygiadau o feddyginiaeth nac adolygu apwyntiadau neu atgyfeiriadau presennol. Os ydych eisoes yn ceisio cymorth iechyd meddwl yn y gymuned, parhewch i ddefnyddio'r dull hwn fel eich pwynt cyswllt cyntaf.

Mae 111 Pwyswch 2 yn wasanaeth brys sy'n cynnig cyngor asesu a chyfeirio i unrhyw un sy'n profi argyfwng iechyd meddwl, neu sydd angen cymorth i reoli eu symptomau.

Dilynwch ni