Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Fferylliaeth mewn Iechyd Meddwl

Mae’r Tîm Fferylliaeth Iechyd Meddwl yn cynnwys fferyllwyr a staff technegol ac wedi’i leoli yn Hafan y Coed yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Pwy rydyn ni’n eu cefnogi

Mae’r Gwasanaeth Fferylliaeth yn darparu cymorth clinigol a thechnegol i’r canlynol:

  • Wardiau cleifion mewnol yn Hafan y Coed, Ysbyty Llandochau, Heol y Parc ac unedau adsefydlu Phoenix House
  • Timau Datrys Argyfwng a Thriniaeth yn y Cartref i Oedolion a MHSOP REACT
  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cleifion Mewnol ar gyfer Wardiau Pobl Hŷn, gan gynnwys ward Gwasanaeth Dementia Cynnar yn Ysbyty’r Barri
  • Seiciatreg Gyswllt ar gyfer Pobl Hŷn (LPOP)
  • Y Tîm Cyswllt Cartrefi Gofal (CHLT)
  • Timau Iechyd Meddwl Cymunedol
  • Clinigau Clozapine a chleifion Clozapine yn y gymuned
  • Gwasanaeth Amenedigol
  • Tîm Dibyniaeth fel DATT
  • Sefydliadau gwirfoddol fel HAFAL, Bipolar Wales a MIND
Mae’r gwasanaethau a ddarperir gan y fferyllwyr yn cynnwys:
  • Cysoni meddyginiaethau o fewn 24 awr o gael eu derbyn
  • Ymweliadau dyddiol â’r Ward Asesu Argyfwng a’r ward PICU i wneud y canlynol:
    • Adolygu presgripsiynau
    • Gwirio rhyngweithiadau cyffuriau
    • Gwirio priodoldeb y feddyginiaeth
  • Arwain ar y defnydd o feddyginiaethau’r claf ei hun a hwyluso hunanfeddyginiaethu ar y wardiau
  • Presgripsiynu anfeddygol i gleifion mewn Timau Iechyd Meddwl Cymunedol ac o fewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn / Gwasanaeth Dementia Cynnar, Cyswllt Cartrefi Gofal, LPOP, REACT, Gwasanaeth Amenedigol a Dibyniaeth
  • Darparu gwybodaeth am feddyginiaethau
  • Mynychu cyfarfodydd Timau Amlddisgyblaethol
  • Rhoi ail farn
  • Cefnogi cynlluniau gofal ar ôl rhyddhau
  • Gweithredu fel eiriolwr dros y claf
  • Darparu gwybodaeth i’r claf ac/neu i’r gofalwr
  • Addysg a hyfforddiant ar gyfer staff meddygol a chlinigol eraill
  • Cefnogi Ymchwil ac Archwilio o fewn y Bwrdd Iechyd ac ar y cyd ag Ysgol Fferylliaeth Cymru
  • Addysgu myfyrwyr fferylliaeth israddedig ac ôl-raddedig mewn partneriaeth ag AaGIC a Phrifysgol Caerdydd
Dilynwch ni