Mae adran iechyd cyhoeddus y Bwrdd Iechyd yn dîm integredig o staff BIP, awdurdodau lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i wella iechyd a llesiant ac ansawdd gwasanaethau gofal iechyd, a hefyd i amddiffyn iechyd ein cymunedau lleol.
Arweinir y tîm gan Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus.
Dewch i gyfarfod y tîm iechyd cyhoeddus
Mae'r tîm iechyd cyhoeddus yn nodi ac yn mynd i'r afael â materion cyfredol iechyd y boblogaeth a rhai i'r dyfodol, yn gwella iechyd ac yn lleihau anghydraddoldebau iechyd ymhlith preswylwyr a chymunedau yn ein hardal.
Mae'r ystod eang o bynciau cysylltiedig ag iechyd y mae Tîm Iechyd Cyhoeddus yn ymdrin â nhw yn cynnwys alcohol, tybaco, cadw'n heini, atal cwympo a mwy.
Mae Tîm Deieteg Iechyd Cyhoeddus yn cefnogi ac yn datblygu mentrau newydd sy'n helpu pobl i wneud dewisiadau bwyd iach.
Rydym wedi cynnwys y prif gyhoeddiadau a allai fod o ddiddordeb ichi.