Mae'r tudalennau hyn yn disgrifio, yn egluro ac yn cyfeirio at adnoddau defnyddiol yn y maes iechyd meddwl yn BIP Caerdydd a'r Fro. Os oes gennych unrhyw ymholiadau brys, cysylltwch yn syth â'ch meddyg teulu.
Os ydych chi'n credu bod pryderon iechyd meddwl nad oes brys i'w trin yn effeithio arnoch chi, neu os ydych yn poeni am rywun rydych chi'n ei adnabod, eich Meddyg Teulu ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf. Bydd eich meddyg teulu'n penderfynu wedyn a oes angen eich atgyfeirio i Dîm Iechyd Meddwl Arbenigol.