Neidio i'r prif gynnwy

Ceisiadau i ffilmio a thynnu lluniau

A film crew interviewing a doctor

Rydym yn derbyn nifer fawr o geisiadau i ffilmio a thynnu lluniau. Ni allwn gytuno i bob un ohonynt ac rydym yn cadw’r hawl i wrthod.

Mae gennym ddyletswydd i ddiogelu cyfrinachedd ein cleifion, felly ni chaniateir ffotograffiaeth na ffilmio mewn rhai ardaloedd.

Gofynnir i unrhyw un a ganfyddir yn ffilmio neu’n tynnu lluniau heb ganiatâd ein tîm cyfathrebu i adael ar unwaith a gellir cymryd unrhyw ffilm a ffotograffau oddi wrthynt.

Ceisiadau ffilmio

Noder ein bod yn codi tâl am ffilmio neu ffotograffiaeth fasnachol ar ein safleoedd ac mae ein capasiti i dderbyn y ceisiadau hyn yn gyfyngedig iawn. Cysylltwch â’r Tîm Cyfathrebu am ragor o wybodaeth.

Yn ystod y broses ffilmio a thynnu lluniau

Rhaid i griwiau ffilmio a ffotograffwyr gael aelod o’r Tîm Cyfathrebu neu aelod o staff wedi’i ddynodi gan y tîm bob amser. Efallai y bydd costau ychwanegol os bydd angen i staff diogelwch fod yn bresennol.

Ni chaniateir ffilmio unrhyw gleifion na staff heb gael caniatâd priodol. Rhaid parchu a dilyn ein gweithdrefnau, megis y rhai ar gyfer rheoli heintiau, cadw cyfrinachedd a chynnal urddas cleifion.

Dilynwch ni