Neidio i'r prif gynnwy

Ymweld â Chleifion

Pan fydd rhywun yn yr ysbyty, rydyn ni'n gwybod y gall ymweliadau gan ffrindiau, teulu ac anwyliaid wneud gwahaniaeth mawr. Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro groesawu ymwelwyr i'n safleoedd, rydym yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi eich teulu a'ch ffrindiau yn ystod eu harhosiad yn yr ysbyty.

Cydnabyddir na all canllawiau ragweld pob cais i ymweld na holl amgylchiadau cleifion. Dim ond os cytunir ar hynny gyda staff y ward y gellir ymweld â chleifion sydd â haint neu sy’n hunanynysu ar hyn o bryd.

Bydd achlysuron lle gallai ymweliadau gael eu hatal neu eu cyfyngu o dan yr amgylchiadau hyn er mwyn amddiffyn cleifion, staff a'n cymunedau.

Egwyddorion Cyffredinol

  • Ni ddylai ymwelwyr fynychu os ydynt hwy, neu unrhyw aelod o'u haelwyd, yn profi symptomau salwch. 

  • Gall pob claf gael uchafswm o ddau ymwelydd fesul ymweliad

  • Yr oriau ymweld cyffredinol yw rhwng 11 y bore a 9 yr hwyr.* 

  • Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir ymweliadau ar ôl 9pm a rhaid cytuno arnynt gyda Rheolwr y Ward neu'r Nyrs â Chyfrifoldeb. 
     
  • Rhaid i ymwelwyr olchi neu ddiheintio eu dwylo wrth fynd i mewn ac allan o'r ysbyty a'r ward. 

  • Rhaid i ymwelwyr wisgo gorchudd wyneb (oni bai eu bod wedi'u heithrio'n feddygol) os gofynnir iddynt wneud hynny gan staff y Bwrdd Iechyd.

* Noder y bydd gan rai meysydd arbenigol, fel Mamolaeth a Gofal Critigol, eu canllawiau lleol eu hunain ar waith. 

Cleifion allanol

Ar gyfer cleifion sy'n mynychu apwyntiadau cleifion allanol bydd y Bwrdd Iechyd yn caniatáu i un cydymaith fynd gyda nhw os oes angen. Nid oes llawer o le yn y mannau aros a rhoddir blaenoriaeth i gleifion sydd angen gofal. 

Ymweld ag Uned Achosion Brys neu Adran Asesu

Os ydych yn dymuno, gallwch ddod ag un person gyda chi. Ar adegau prysur, efallai y byddwn yn gofyn i'r person sy'n dod gyda chi aros yn rhywle arall dros dro os nad oes llawer o le yn yr adran.

Cydnabyddir, ar gyfer Gofalwyr a phobl sy'n helpu gydag adsefydlu, ar gyfer pobl ag anghenion dysgu neu iechyd meddwl, y dylai'r ward gytuno ar gynllun presenoldeb gyda chi i sicrhau eich bod chi a'ch teulu yn gallu cefnogi eich anwylyd.

Cynlluniau Presenoldeb

Ar gyfer unrhyw gleifion y nodwyd eu bod ar lwybr lliniarol, dylid cytuno ar gynllun presenoldeb gyda chi i sicrhau eich bod chi a'ch teulu yn gallu bod yn bresennol yn ôl yr angen.

Hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd a'u dealltwriaeth yn ystod yr hyn rydyn ni'n gwybod sydd wedi bod yn gyfnod anodd iawn i gleifion a'u hanwyliaid. Hoffem eich sicrhau bod pob penderfyniad wedi'i wneud er lles gorau'r bobl yr ydym yn gofalu amdanynt, y bobl sy'n gweithio yn ein cyfleusterau ac yn ymweld â nhw, a'r gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni