Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl y Brifysgol

Mae Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl y Prifysgolion, neu MHULS, yn dîm sydd wedi’i gynllunio i weithio gyda myfyrwyr sy’n mynychu un o’r 4 prifysgol yng Nghaerdydd. Mae Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i gyd yn rhan o Bartneriaeth De-ddwyrain Cymru gyda’r GIG i ddarparu asesiad iechyd meddwl i fyfyrwyr o bob oedran yn ardal Caerdydd a’r Fro.

Mae tîm o 4 ymarferydd iechyd meddwl wedi’u lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd bron bob dydd ond maent hefyd yn mynychu’r 3 prifysgol arall i weithio gyda thimau lles myfyrwyr a myfyrwyr sy’n lleol i Gaerdydd a’r Fro. Maent yn gweithio’n agos iawn gyda’r gwasanaethau cymorth niferus ym mhob campws a gyda thimau’r GIG i sicrhau bod llwybr gofal ar gael i fyfyrwyr sydd angen cymorth iechyd meddwl. Bydd y tîm yn gweld holl fyfyrwyr Caerdydd a’r Fro p’un a oes ganddynt feddyg teulu lleol ai peidio.

Ni all myfyrwyr hunangyfeirio at MHULS ond gallant gael mynediad at y tîm drwy atgyfeiriadau gan holl wasanaethau’r GIG gan gynnwys meddygon teulu, adrannau damweiniau ac achosion brys, timau iechyd meddwl cymunedol a thimau gofal sylfaenol, a gan bob un o’r 4 prifysgol. Mae’r ymarferwyr yn asesu myfyrwyr ac yn gweithio gyda nhw i nodi’r llwybr gofal iechyd meddwl mwyaf priodol neu’r opsiwn cymorth academaidd sydd ei angen arnynt i’w helpu i gyflawni eu nodau. Mae gan y bartneriaeth gytundeb rhannu unigryw sy’n ein galluogi i rannu gwybodaeth iechyd ar draws pob parti oni bai bod myfyrwyr yn dewis optio allan o’r trefniant hwn. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn ymwybodol o anghenion pob defnyddiwr gwasanaeth, ac yn gweithio gyda’n gilydd. 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â gwasanaeth lles eich Prifysgol neu'ch Meddyg Teulu yng Nghaerdydd a'r Fro.

 

Dilynwch ni