Neidio i'r prif gynnwy

Anhwylderau Bwyta (Oedolion)

Measuring Tape Wrapped Around a fork

A ydych chi'n poeni am eich pwysau a'ch siâp nes eich bod yn teimlo ei fod yn effeithio ar eich bywyd?

A ydy'r pryder hwn yn gwneud ichi gyfyngu ar eich bwyd neu glirio'ch hun ar ôl bwyta?

A ydych chi'n teimlo diffyg rheolaeth wrth fwyta?

Os ydych chi'n ateb 'ydw' i'r cwestiynau hyn, neu'n credu y gallai rhywun sy'n agos i chi wneud hynny, mae'n debygol y bydd arnoch eisiau gwybod rhagor am anhwylderau bwyta. 

 

  • Gallwch ddefnyddio'r tudalennau hyn i gael gwybod am y gwasanaethau sydd ar gael i oedolion (dros 18 oed) yn nalgylch Caerdydd a Bro Morgannwg.  
  • Byddwn yn eich cyfeirio at ffynonellau defnyddiol o wybodaeth am anhwylderau bwyta. 
  • Byddwn hefyd yn eich annog i ddod i siarad â ni. Gallwch wneud hyn drwy ofyn i'ch meddyg teulu eich atgyfeirio naill ai i'r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol neu'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol am asesiad.

 

Mae'n bwysig ichi siarad â rhywun am gael cymorth, a bydd eich meddyg teulu'n gallu eich cynghori ar y camau gorau i'w cymryd. 

 

Trosglwyddo'r Neges

I nodi Wythnos Ymwybyddiaeth am Anhwylderau Bwyta 2019, mae tîm Anhwylderau Bwyta Caerdydd a'r Fro, ynghyd â'u defnyddwyr gwasanaeth, Celfyddydau Cymunedol y Cymoedd a'r Fro a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi lansio cyfres o fideos wedi'u hanimeiddio o'r enw “Getting the Message Across”.

Dilynwch ni