Rôl Cynghorydd y Bwrdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

 

Rwy'n ffodus i arwain Bwrdd ymroddedig a medrus sy’n cyflawni dros bobl y rhanbarth a ledled Cymru, ac rydym wedi penderfynu y gallwn wella ein harweinyddiaeth trwy gyngor unigolyn (neu unigolion) sydd ag arbenigedd ac angerdd dros gyllid – ac yn deall yr hyn y mae'n ei olygu i stiwardio swm enfawr o arian cyhoeddus wrth ddarparu gwasanaeth cyhoeddus, ynghyd â’r holl gymhlethdod, cynllunio, llywodraethu ac uchelgais sy’n gysylltiedig â hynny.

Hoffwn glywed gennych os oes gennych chi gefndir mewn cyfrifeg, economeg, rheolaeth ariannol strategol neu gyllid sefydliadau mawr a chymhleth yn y sector cyhoeddus neu breifat ac os ydych chi’n awyddus i gyfrannu mewn ffordd ystyrlon at un o'r sefydliadau cyhoeddus pwysicaf sydd gennym ni yn y GIG.

Bydd union natur y cyfraniad hwnnw yn destun sgwrs. Gallai amrywio o awydd am rywfaint o waith pro bono ar agwedd benodol ar strategaeth ariannol hyd at rôl gynghori â thâl ar y Bwrdd neu arweinyddiaeth ein Pwyllgor Cyllid. Rydym am fod yn glyfar ac yn hyblyg wrth reoli ein hadnoddau gan sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau o’r ansawdd gorau i'n poblogaeth.

Os ydych chi'n meddwl y gallai hyn fod yn berthnasol i chi, anfonwch e-bost at ein Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol Matt.Phillips2@wales.nhs.uk gyda chyflwyniad – os ydych chi eisiau anfon CV, gwnewch hynny, os oes gennych chi ddolen i gyfrif LinkedIn, gwych, ond nid yw hyn yn ofynnol, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw nodi pam, ar sail yr hyn rydw i wedi'i ysgrifennu yma, rydych chi'n cysylltu.

Os nad yw’r swydd hon yn addas i chi, ond eich bod chi'n gwybod am rywun a allai fod â diddordeb, yna rhannwch hwn neu cysylltwch ag argymhelliad!

Kirsty Williams CBE

Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro