Neidio i'r prif gynnwy

Seiciatreg Gyswllt

Mae'r Adran Seiciatreg Gyswllt yn darparu gwasanaeth i'r wardiau meddygol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Rookwood ac Ysbyty Brenhinol Caerdydd, yn ogystal â hosbis Holme Tower. 

Asesiadau

  • Asesir cleifion rhwng 16 a 65 oed fel cleifion mewnol gan y staff meddygol.
  • Mae nyrsys cyswllt seiciatrig yn asesu cleifion mewnol yn Uned Gwenwynau Caerdydd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.
  • Mae nyrsys cyswllt seiciatrig yn asesu cleifion sy'n cyflwyno eu hunain i'r Uned Argyfyngau yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Atgyfeiriadau

  • Caiff cleifion mewnol eu hatgyfeirio drwy ffurflen atgyfeirio Seiciatreg Gyswllt sydd ar gael ar bob ward yn yr ysbytai sy'n cael eu cwmpasu gan y gwasanaeth.
  • Mae meddygon hefyd yn gallu atgyfeirio cleifion nad ydynt eisoes o dan ofal seiciatrydd yn y gymuned fel cleifion allanol.
  • Derbynnir atgyfeiriadau gan feddygon teulu yn achos cleifion sy'n cyflwyno anawsterau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â phroblemau meddygol, lle ymchwiliwyd yn llawn i'r problemau meddygol hyn.
  • Darperir gwasanaeth ail farn i Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol i helpu i reoli cleifion y mae anawsterau corfforol cronig yn gwaethygu eu hanawsterau iechyd meddwl.
  • Mae seicotherapydd ymddygiadol gwybyddol yn gweld cleifion sydd wedi'u hasesu a'u hatgyfeirio gan y Seiciatrydd Cyswllt Ymgynghorol a meddygon iau, ond ni all gymryd atgyfeiriadau'n uniongyrchol.
Dilynwch ni