Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol Amenedigol

Mae'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol Amenedigol yn arbenigo mewn asesu, diagnosis, triniaeth ac ymyriad therapiwtig i fenywod y mae problemau iechyd meddwl cymedrol i ddifrifol yn effeithio arnynt yn y cyfnod cyn cenhedlu, cyn geni ac ôl-enedigol.

Mae'r tîm yn cynnwys Nyrsys Iechyd Meddwl Cymunedol, Nyrsys Meithrin, Seiciatrydd Ymgynghorol, Seicolegydd Clinigol, a Bydwraig Iechyd Meddwl Amenedigol.

Rydym yn wasanaeth ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i fenywod o bob oedran ag afiechyd meddwl sy'n bodoli eisoes neu'r rheini sydd mewn perygl o gael un, a menywod sy'n cael problemau am y tro cyntaf yn ystod beichiogrwydd, neu'n fuan ar ôl geni plentyn. 

Atal yw ein ffocws craidd, felly mae mwyafrif ein gwaith fel arfer yn dechrau o ail dymor beichiogrwydd, gyda'r nod o hyrwyddo lles drwy gydol y cyfnod amenedigol.

Cydweithiwn yn agos â gwasanaethau cyn geni a Thimau Iechyd Meddwl Cymunedol i atal neu leihau risg ailwaeledd, i roi gofal a chymorth i fenywod a'u teuluoedd, ac i gynorthwyo i ffurfio cynllun geni i fenywod sydd yn y perygl mwyaf o salwch meddwl difrifol tuag adeg geni plentyn. 

Yr hyn a gynigiwn

  • Cyngor cyn cenhedlu, cynllunio beichiogrwydd a genedigaeth i fenywod sydd wedi cael pwl blaenorol o salwch meddwl e.e. Anhwylder Deubegynol, Seicosis Ôl-esgor / Ôl-enedigol, Sgitsoffrenia, Iselder neu Orbryder Difrifol, ac Anhwylderau Personoliaeth. 
  • Ymgynghoriad a allai arwain at asesiad pellach o opsiynau triniaeth sy'n ystyried yr hyn sy'n bwysicaf i fenywod yn ystod beichiogrwydd.
  • Rhannu'r gwaith o ddatblygu cynllun gofal sy'n bodloni anghenion unigol menywod.
  • Ymyriad seicolegol a gyflenwir mewn grŵp sy'n ceisio magu cadernid mewn beichiogrwydd a lleihau risg problemau iechyd meddwl ar ôl geni. 
  • Therapïau seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a ddarperir ar sail un ac un.
  • Cynllunio at y cyfnod ôl-enedigol i hyrwyddo iechyd da ac atal ailwaeledd. 
  • Cyngor ar bresgripsiynu meddyginiaeth am resymau iechyd meddwl mewn beichiogrwydd a bwydo ar y fron e.e. gwrthiselyddion.
  • Cefnogi mamau i ddatblygu perthynas â'u baban a hwyluso'r broses o sefydlu trefn ynghylch bwydo, cysgu, chwarae ac ati.
  • Cymorth am hyd at flwyddyn ar ôl geni, os yw'r problemau wedi dechrau yn ystod beichiogrwydd neu yn ystod y mis ôl-enedigol cyntaf.

Sut i gael at y gwasanaeth

Byddai bydwragedd ac obstetregwyr yn cael at y gwasanaeth drwy atgyfeiriad drwy ein cyfeiriad e-bost electronig a Thimau Iechyd Meddwl Cymunedol drwy PARIS.

Mae'r Ffurflen Atgyfeirio Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol Amenedigol ar gael o'r cyfeiriad isod. Rydym hefyd yn hapus i bobl gysylltu â ni i drafod atgyfeiriadau gan eraill, neu gallwn gynghori ar wasanaethau amgen / dangos y ffordd. 

Cysylltu

 

Rydym ar agor 9.00am - 5.00pm ddydd Llun i ddydd Iau, a 9.00am - 4.30pm ddydd Gwener.

Ymholiadau brys a'r tu allan i oriau

Gweithwyr Iechyd Proffesiynol

Defnyddwyr Gwasanaeth

Cysylltwch â'ch Meddyg Teulu.

Gwybodaeth Bellach

Mae amrywiaeth o adnoddau ar gael ar y we i roi gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth a gweithwyr iechyd proffesiynol, ac yn eu plith: 

Dilynwch ni