Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i

 I gofrestru fel myfyriwr y Coleg Adfer, cliciwch yma

Ar ôl cofrestru fel myfyriwr, mewngofnodwch yma i gofrestru ar gyrsiau’r Coleg Adfer yma

Mae Coleg Adfer a Lles Caerdydd a’r Fro yn darparu cyrsiau addysgiadol am ddim ar ystod o bynciau iechyd meddwl, iechyd corfforol a lles. Caiff ein cyrsiau eu cynnal ar-lein neu wyneb yn wyneb mewn lleoliadau ar draws Caerdydd a’r Fro.

Rydym yn croesawu unrhyw un i gofrestru fel myfyriwr, gallech fod yn:

  • Rhywun sydd â phrofiad personol o heriau iechyd meddwl ac/neu iechyd corfforol.
  • Cefnogi neu’n gofalu am rywun sy’n wynebu heriau iechyd meddwl neu iechyd corfforol.
  • Aelod o staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro neu’n gweithio yn y sector cyhoeddus neu elusennol.

Mae cymorth gan gymheiriaid wrth wraidd ein holl gyrsiau, gyda phob un ohonynt yn cael eu cyd-gynhyrchu a’u cyd-ddarparu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a hyfforddwyr cymheiriaid sydd â phrofiad personol o heriau iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Mae arweinwyr y cwrs yn defnyddio eu profiad i gefnogi eraill.

Rydym yn credu bod gan arbenigedd clinigol a phrofiad personol yr un gwerth ac mae ein cyrsiau yn gyfle i ddysgu gan ein gilydd a gwerthfawrogir cyfraniadau pawb. Ein nod yw pontio’r bwlch rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol ac rydym yn datblygu nifer o bartneriaethau arloesol i wella iechyd a lles pobl ar draws Caerdydd a’r Fro.


E-bost: Cardiffandvale.Recoverycollege@wales.nhs.uk

Ffoniwch: 02921 832619

Dilynwch ni ar Twitter a Facebook.

 

 

Dilynwch ni