Neidio i'r prif gynnwy

Therapi Electrogynhyrfol

Mae therapi electrogynhyrfol (ECT) yn driniaeth ddiogel ac effeithiol.  Mae’r tîm ECT yn darparu gofal a thriniaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth—y rhai ag iselder difrifol fel arfer—mewn lleoliad clinigol modern.

Mae tîm amlddisgyblaethol ECT yn cynnwys:

  • Ymgynghorydd arweiniol ac Athro Seiciatreg
  • Seiciatrydd Ymgynghorol
  • Rheolwr Clinig ECT
  • Dirprwy reolwr clinig ECT
  • Tîm o Nyrsys Iechyd Meddwl Cofrestredig
  • Tîm o Anesthetyddion Ymgynghorol ac Ymarferwyr Anesthetig.
  • Tîm o Nyrsys Cofrestredig sy'n arbenigo mewn adferiad o anesthesia
  • Gweithwyr cymorth iechyd meddwl
  • Gwirfoddolwyr sydd â phrofiad bywyd o ECT

Mae’r gwasanaeth ECT wedi’i leoli yn Hafan y Coed, Ysbyty Athrofaol Llandochau a gellir cysylltu â nhw ar 029 2182 4756 / 4757 rhwng 7.30am a 3.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae'r gwasanaeth yn derbyn atgyfeiriadau gan dimau sy'n gweithio o fewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Mae’r gwasanaeth ECT wedi’i achredu gan Wasanaeth Achredu ECT Coleg Brenhinol y Seiciatryddion sy’n gosod safonau ar gyfer pob agwedd ar ofal ECT yng Nghymru, Lloegr ac Ynys Iwerddon. Mae'r broses achredu yn drylwyr.

Dilynwch ni