Mae Gwasanaeth Diogelwch Isel Caerdydd a’r Fro yn wasanaeth arbenigol ac ymroddedig i bobl sy’n dioddef o anhwylder meddwl difrifol. Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnwys ward cleifion mewnol diogelwch isel yn Uned Iechyd Meddwl Hafan y Coed yn Ysbyty Athrofaol Llandochau; Tîm Fforensig Diogelwch Isel Cymunedol a Gwasanaeth Cyswllt Cyfiawnder Troseddol i gyd wedi’u lleoli yn y Bwrdd Iechyd.
Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i gynllunio’n benodol i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth sydd wedi cyflawni trosedd ddifrifol neu sydd mewn perygl o beri niwed i eraill ac sydd â salwch meddwl difrifol a pharhaus.
Rydym yn darparu gofal, triniaeth a goruchwyliaeth i gleifion ag anghenion cymhleth, wedi’u darparu gan staff medrus a phrofiadol iawn i sicrhau diogelwch y rhai sydd yn ein gofal a’r cymunedau ehangach.
Rydym yn derbyn defnyddwyr gwasanaeth o ysbytai diogelwch canolig, ysbytai seiciatrig lleol, carchardai a’r llysoedd.
Mae gan ein Tîm Diogelwch Isel ethos o adfer a grymuso. Mae ein defnyddwyr gwasanaeth wedi creu’r gwaith celf hwn i ddisgrifio eu profiad o fod mewn gwasanaethau diogel.
Defnyddiodd y defnyddwyr gwasanaeth y cyfle hwn i weithio fel tîm, cyfathrebu’n gadarnhaol a rhannu neges o lais cyfartal ac adferiad.
Ward Cleifion Mewnol – WARD MASARN
Uned cleifion mewnol gwrywaidd ag 13 gwely.
Tîm Fforensig Diogelwch Isel Cymunedol
Rydym yn dîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys Nyrsys Iechyd Meddwl Cymunedol, Gweithwyr Cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol, Seiciatryddion Fforensig a Seicolegwyr. Rydym wedi ein lleoli yn Uned Llanfair, yn Ysbyty Athrofaol Llandochau sy’n gwasanaethu poblogaeth Caerdydd a’r Fro.
Tîm Cyfiawnder Troseddol
Darperir y gwasanaeth Cyswllt Cyfiawnder Troseddol i Lys Ynadon Caerdydd, y Gwasanaeth Prawf a’r Ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd gan Nyrsys Iechyd Meddwl Cymunedol penodedig.
Meini Prawf Atgyfeirio ar gyfer y Gwasanaeth Fforensig Diogelwch Isel
Mae’r Gwasanaeth Fforensig Diogelwch Isel yn wasanaeth trydyddol sy’n derbyn atgyfeiriadau gan Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol, Ysbytai Diogelwch Canolig, Unedau Diogelwch Isel eraill, wardiau Cleifion Mewnol a’r Gwasanaeth Cyswllt Cyfiawnder Troseddol sy’n rhan o’r Bwrdd Iechyd.
Cysylltu â’r Gwasanaeth
Gellir cysylltu â’r Tîm Fforensig Diogelwch Isel Cymunedol ar 02921824500.
Gellir cysylltu â Ward Masarn, ward Cleifion Mewnol, drwy’r Dderbynfa yn Uned Iechyd Meddwl Hafan y Coed, Ysbyty Athrofaol Llandochau ar 02921824700.