Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Straen Trawmatig

Mae’r Gwasanaeth Straen Trawmatig yn wasanaeth amlddisgyblaethol arbenigol, sy’n cynnig asesiad therapi seicolegol ac adolygiadau meddyginiaeth i bobl 18 oed ac yn hŷn, sydd ag anhwylder straen wedi trawma (PTSD) neu PTSD cymhleth.

Mae’r tîm fel arfer yn cynnwys

  • Seicolegydd clinigol ymgynghorol ac arweinydd gwasanaeth

  • Seicolegydd clinigol ymgynghorol rhan amser

  • Ymarferydd seicoleg arbenigol iawn

  • Dau uwch therapydd seicolegol amser llawn a phedwar uwch therapydd seicolegol rhan amser

  • Mewnbwn sesiynol gan seiciatrydd ymgynghorol i roi ail farn ar ddiagnosis, gofal a rhagnodi

  • Gweinyddwr

Atgyfeirio ac Asesu

Mae’r gwasanaeth yn derbyn atgyfeiriadau gan y gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol a gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn nalgylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn dilyn asesiad iechyd meddwl cychwynnol gan un o’r timau hyn. Unwaith y derbynnir yr atgyfeiriad, byddwn fel arfer yn cynnig asesiad arbenigol pellach i bennu a ydym yn debygol o allu helpu, neu a allwn gynnig cyngor ar fathau eraill o gefnogaeth y gallai fod eu hangen. Rydym yn hapus i drefnu apwyntiadau gyda chyfieithwyr ar gyfer unigolion pan fo angen.

Therapi Seicolegol sy’n Canolbwyntio ar Drawma

Mae’r gwasanaeth yn cynnig dau fath o therapïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer PTSD:

  • Dadsensiteiddio ac ailbrosesu drwy symudiad y llygaid (EMDR)

  • Therapi gwybyddol ymddygiadol sy’n canolbwyntio ar drawma (TFCBT). Mae therapi seicolegol fel arfer yn cynnwys hyd at 16 sesiwn

Sefydliadau Partner

Mae ein gwasanaeth yn gweithio’n agos iawn gyda Straen Trawmatig Cymru, menter a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n anelu at wella iechyd a lles pobl â PTSD neu PTSD cymhleth ledled Cymru. Mae nifer o adnoddau defnyddiol ar gael ar wefan Straen Trawmatig Cymru. Yn ogystal, nod y gwasanaeth yw gweithio’n agos gydag ymchwilwyr i helpu i ddatblygu gwell dealltwriaeth o effeithiau trawma ac i helpu i ddatblygu triniaethau mwy effeithiol ar gyfer PTSD a PTSD cymhleth. Mae aelodau’r gwasanaeth yn rhan o Grŵp Ymchwil Straen Trawmatig Prifysgol Caerdydd a hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol (NCMH). Mae gan NCMH nifer o daflenni defnyddiol i bobl sydd â PTSD ac anawsterau iechyd meddwl eraill yma.

Gall cyn-filwyr sy’n chwilio am gymorth ar gyfer PTSD neu anawsterau iechyd meddwl eraill gael cymorth yn uniongyrchol drwy GIG Cymru i Gyn-filwyr.

Dilynwch ni