Mae’r Tîm Fferylliaeth Iechyd Meddwl yn cynnwys fferyllwyr a staff technegol ac wedi’i leoli yn Hafan y Coed yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.
Pwy rydyn ni’n eu cefnogi
Mae’r Gwasanaeth Fferylliaeth yn darparu cymorth clinigol a thechnegol i’r canlynol:
- Wardiau cleifion mewnol yn Hafan y Coed, Ysbyty Llandochau, Heol y Parc ac unedau adsefydlu Phoenix House
- Timau Datrys Argyfwng a Thriniaeth yn y Cartref i Oedolion a MHSOP REACT
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cleifion Mewnol ar gyfer Wardiau Pobl Hŷn, gan gynnwys ward Gwasanaeth Dementia Cynnar yn Ysbyty’r Barri
- Seiciatreg Gyswllt ar gyfer Pobl Hŷn (LPOP)
- Y Tîm Cyswllt Cartrefi Gofal (CHLT)
- Timau Iechyd Meddwl Cymunedol
- Clinigau Clozapine a chleifion Clozapine yn y gymuned
- Gwasanaeth Amenedigol
- Tîm Dibyniaeth fel DATT
- Sefydliadau gwirfoddol fel HAFAL, Bipolar Wales a MIND
Mae’r gwasanaethau a ddarperir gan y fferyllwyr yn cynnwys:
- Cysoni meddyginiaethau o fewn 24 awr o gael eu derbyn
- Ymweliadau dyddiol â’r Ward Asesu Argyfwng a’r ward PICU i wneud y canlynol:
- Adolygu presgripsiynau
- Gwirio rhyngweithiadau cyffuriau
- Gwirio priodoldeb y feddyginiaeth
- Arwain ar y defnydd o feddyginiaethau’r claf ei hun a hwyluso hunanfeddyginiaethu ar y wardiau
- Presgripsiynu anfeddygol i gleifion mewn Timau Iechyd Meddwl Cymunedol ac o fewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn / Gwasanaeth Dementia Cynnar, Cyswllt Cartrefi Gofal, LPOP, REACT, Gwasanaeth Amenedigol a Dibyniaeth
- Darparu gwybodaeth am feddyginiaethau
- Mynychu cyfarfodydd Timau Amlddisgyblaethol
- Rhoi ail farn
- Cefnogi cynlluniau gofal ar ôl rhyddhau
- Gweithredu fel eiriolwr dros y claf
- Darparu gwybodaeth i’r claf ac/neu i’r gofalwr
- Addysg a hyfforddiant ar gyfer staff meddygol a chlinigol eraill
- Cefnogi Ymchwil ac Archwilio o fewn y Bwrdd Iechyd ac ar y cyd ag Ysgol Fferylliaeth Cymru
- Addysgu myfyrwyr fferylliaeth israddedig ac ôl-raddedig mewn partneriaeth ag AaGIC a Phrifysgol Caerdydd