Mae’r Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol yn wasanaeth meddyg teulu. Trwy bartneriaeth gyda Gofal Sylfaenol a’r Bwrdd Clinigol Iechyd Meddwl, mae Ymarferwyr Arbenigol Iechyd Meddwl yn gweithio mewn meddygfeydd i gynorthwyo meddygon teulu a chleifion sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Mae’r cydweithwyr profiadol iawn hyn yn gweithio o fewn practisau meddyg teulu i helpu i ddeall natur y broblem a’r llwybr gorau a mwyaf effeithlon at adferiad.
Caiff yr ymarferwyr sgwrs ffôn 20 munud o hyd gyda’r unigolyn i ganfod yr hyn sydd bwysicaf iddynt.
Mewn llawer o achosion, gellir datrys y problemau yn y practis heb fod angen eu atgyfeirio at wasanaeth neu asiantaeth arall. Mae ein cydweithwyr yn gyfarwydd iawn â’r holl asiantaethau a gwasanaethau eraill sydd ar gael yn y gymuned, gan gynnwys asiantaethau Presgripsiynu Cymdeithasol yn y sector Elusennau, yn ogystal â’r gwahanol lwybrau clinigol drwy’r Bwrdd Iechyd.
Yn dilyn y sgwrs gychwynnol, gallai’r canlyniad olygu cael mynediad at wasanaethau ar y we, cyngor, arweiniad a chymorth, neu gefnogaeth fwy strwythuredig gan ystod o wasanaethau yn y gymuned. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnig Therapi Gwybyddol Ymddygiadol, cwnsela, hunangymorth dan arweiniad, cymorth profedigaeth, rheoli dicter yn ogystal â mynediad at, a gwybodaeth am grwpiau a gwasanaethau sydd â’r nod o fynd i’r afael â materion yn ymwneud â thai, dyled, cyflogaeth, adfer yn dilyn camdriniaeth, cymorth trais domestig neu ynysigrwydd cymdeithasol.
Bydd ein Hymarferwyr Iechyd Meddwl hefyd yn gallu cynorthwyo gydag atgyfeiriadau at wasanaethau eraill fel Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, Therapïau Seicolegol, Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol a gwasanaethau Trawma arbenigol.
Mae Ymarferwyr Iechyd Meddwl ar gael ym mhob meddygfa yng Nghaerdydd a’r Fro. Gofynnwch i’ch meddygfa os ydych chi’n credu y gallwn ni helpu yn eich meddygfa leol a chyfarwydd eich hun.
Ein nod yw cynorthwyo pobl i wneud synnwyr o’r hyn a allai fod yn eu poeni a dod o hyd i opsiwn cadarnhaol i sicrhau newid.
Mae ymgynghoriadau wyneb yn wyneb ar gael os yw’r ymarferydd yn credu y byddai hyn yn fuddiol, os oes angen lle diogel ar berson i siarad neu os yw’n cael trafferth yn cyfathrebu dros y ffôn. Mae cyfieithwyr hefyd ar gael yn ôl yr angen.