A ydych chi'n poeni am eich pwysau a'ch siâp nes eich bod yn teimlo ei fod yn effeithio ar eich bywyd?
A ydy'r pryder hwn yn gwneud ichi gyfyngu ar eich bwyd neu glirio'ch hun ar ôl bwyta?
A ydych chi'n teimlo diffyg rheolaeth wrth fwyta?
Os ydych chi'n ateb 'ydw' i'r cwestiynau hyn, neu'n credu y gallai rhywun sy'n agos i chi wneud hynny, mae'n debygol y bydd arnoch eisiau gwybod rhagor am anhwylderau bwyta.
Mae'n bwysig ichi siarad â rhywun am gael cymorth, a bydd eich meddyg teulu'n gallu eich cynghori ar y camau gorau i'w cymryd.
I nodi Wythnos Ymwybyddiaeth am Anhwylderau Bwyta 2019, mae tîm Anhwylderau Bwyta Caerdydd a'r Fro, ynghyd â'u defnyddwyr gwasanaeth, Celfyddydau Cymunedol y Cymoedd a'r Fro a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi lansio cyfres o fideos wedi'u hanimeiddio o'r enw “Getting the Message Across”.