Mae deietegwyr yn darparu addysg i ddefnyddwyr gwasanaeth i'w grymuso i wneud dewisiadau bwyd mwy cadarnhaol, i helpu i wella eu statws iechyd corfforol, maethol a meddyliol.
Gyda phwy ydyn ni'n gweithio?
- Pobl sy'n dirywio'n gorfforol o ganlyniad i'w hanawsterau iechyd meddwl.
- Pobl sy'n cael meddyginiaeth seicotropig ar bresgripsiwn a allai fod yn magu pwysau oherwydd y cyffuriau neu sy'n awyddus i leihau'r risg y bydd hynny'n digwydd.
- Pobl sy'n dioddef o afiechyd cyffredinol oherwydd problemau iechyd meddwl.
- Gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i'w helpu i adnabod rôl maeth mewn iechyd corfforol a meddyliol.
- Gwasanaethau arbenigol fel y Tîm Dementia Cynnar a'r gwasanaethau Anhwylderau Bwyta yn ogystal â Gwasanaethau Iechyd Meddwl eraill i Bobl Hŷn a gwasanaethau cleifion mewnol Oedolion ar draws pob safle.
Mathau o driniaeth
- Asesu a monitro statws maethol unigolion adeg eu derbyn a thrwy gydol arhosiad y claf mewnol i sicrhau statws maethol cadarnhaol - sy'n allweddol i helpu i leihau risg dirywio statws iechyd corfforol, maethol a meddyliol o ganlyniad i afiechydon sy'n berthynol i ddiffyg maeth.
- Cefnogi unigolion gyda phroblemau llyncu.
Gwasanaeth cleifion allanol
Cefnogwn y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol Oedolion drwy ddarparu:
- ymweliadau cartref lle nodir hynny
- rhaglen grŵp ffordd iachus o fyw
- sesiynau grŵp seico-addysg ddeietegol ar gyfer cleientiaid ag anhwylderau bwyta a gynhelir ar y cyd â'r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol
- cyswllt a chydweithio agos â sefydliadau lleol.