Neidio i'r prif gynnwy

Cynnwys

Gwasanaeth arbenigol yw Cynnwys sy'n ceisio darparu gwell cymorth i bobl sy'n cael anawsterau difrifol yn emosiynol, yn ymddygiadol ac mewn perthnasoedd, y cyfeirir yn aml atynt fel anhwylder personoliaeth. 

Mae datblygu'r gwasanaeth hwn wedi arwain at lai o angen am leoliadau y tu hwnt i ardal, llai o reoli argyfwng, a gwelliannau mewn ansawdd bywyd i bobl ag anghenion emosiynol cymhleth. Bellach gellir cynnig cymorth, gwybodaeth a chyngor yn agos i'r lle mae pobl yn byw.

Derbynnir atgyfeiriadau i Cynnwys o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd ledled ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gan gynnwys y Ward Asesu Argyfwng a'r wardiau ardal.

Pwy ydyn ni

Staff tîm Cynnwys yw:

  • Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol (Arweinydd Gwasanaeth)
  • Seicolegydd Clinigol arbenigol iawn
  • 5 clinigwr anhwylder personoliaeth arbenigol
  • Gweinyddwr

Gwasanaethau a Ddarperir

Mae Gwasanaeth Cynnwys yn adnodd i staff a defnyddwyr gwasanaeth fel ei gilydd, sy'n cynnig y canlynol:

  • gwasanaeth ymgynghori i staff neu dimau sy'n gweithio gyda phobl sy'n cyflwyno ymddygiadau risg uchel a heriol. Mae'r ymagwedd hon yn defnyddio dulliau rheoli achos, datrys problemau a chynllunio argyfwng gweithredol i dywys gofal clinigol parhaus. 
  • amrywiaeth o ymyriadau therapiwtig arbenigol gan gynnwys:
    • Rhaglen Therapi Ymddygiadol Dialectegol Cynhwysfawr - yn cynnal grwpiau sgiliau wythnosol, wedi'u cyfuno â sesiynau wythnosol unigol, a mynediad at hyfforddiant dros y ffôn dros gyfnod o 14 mis. Mae hyn ar gael o Ysbyty Dewi Sant yn Nhreganna. 
    • Didwylledd Radical - rhaglen strwythuredig i bobl â phroblemau gor-reoli. Cynhelir grŵp peilot ar hyn o bryd yn Nhîm Iechyd Meddwl Gabalfa.
    • Therapi Dadansoddol Gwybyddol – cwrs a gyflenwir yn unigol o dan derfyn amser, a hwnnw fel arfer rhwng 16 a 24 sesiwn. 

Yn ogystal, mae Tîm Cynnwys yn hwyluso Ymlaen, gwasanaeth dydd strwythuredig sy'n cael ei gynnal un diwrnod yr wythnos yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Hafan Dawel. 

Cysylltu

Mae tîm Cynnwys yn gweithio o Ysbyty'r Eglwys Newydd, a'r rhif cyswllt yw: 029 2033 6401 / 029 2033 6517.

Dilynwch ni