Mae’r Gwasanaeth Cwnsela a Therapïau Seicolegol ar gyfer Iselder (CPTD) yn darparu Therapïau Seicolegol/Cwnsela un i un ar gyfer y cleifion hynny y nodir bod ganddynt symptomau sy’n gyson â hwyliau isel/iselder.
Mae’r gwasanaeth yn cynnig ymyriadau therapiwtig yn seiliedig ar dystiolaeth ac ar anghenion defnyddiwr y gwasanaeth. Mae’r rhain yn cynnwys:
Mae’r CPTD yn derbyn atgyfeiriadau gan wasanaethau Iechyd Meddwl Rhan 1 yn dilyn asesiad cychwynnol.
Mae hyn yn golygu, yn dilyn apwyntiad gyda’ch meddyg teulu, y byddant yn eich atgyfeirio am asesiad gyda’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol (PMHSS) a allai nodi angen am Gwnsela/Therapi Seicolegol ar gyfer hwyliau isel/iselder. Os mai dyma’r sefyllfa, cewch eich atgyfeirio at CPTD.
Bydd CPTD yn adolygu eich manylion atgyfeirio. Os yw’n briodol, byddwch yn cael eich ychwanegu at ein rhestr aros a, maes o law, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad cychwynnol.
Byddwch yn cwrdd â chwnsleydd/therapydd o’r tîm a fydd yn asesu eich anghenion.
Os teimlir y gallwn gynnig ymyriad addas i chi, bydd hyn yn cael ei drefnu yn ystod yr asesiad.
Os nad ydych chi a/neu’r cwnselydd/therapydd yn credu bydd yr hyn y gallwn ei gynnig yn ddefnyddiol, byddant yn helpu i ddod o hyd i lwybr arall.
Weithiau bydd angen i’r cwnselydd/therapydd drafod yr asesiad gyda Goruchwyliwr neu Arweinydd Gwasanaeth er mwyn gwneud penderfyniad. Fe gewch chi wybod am hyn cyn gynted â phosibl.
Mae CPTD yn wasanaeth “digidol yn gyntaf” sy’n cynnig mynediad at ymgynghoriadau fideo ar-lein trwy Attend Anywhere. Os oes angen, gellir cynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb i ddefnyddwyr y gwasanaeth mewn lleoliadau amrywiol yng Nghaerdydd a’r Fro.