Mae'r Gwasanaeth Argyfwng yn cynnwys nifer o wahanol feysydd:
Sefydlwyd model y Gwasanaeth Argyfwng ym mis Ionawr 2014. Arweiniodd at newid radical yn y gwasanaethau a ddarperir i bobl mewn argyfyngau iechyd meddwl, a'r mwyaf arwyddocaol oedd sefydlu un pwynt mynediad i wasanaethau cleifion mewnol ar ffurf Ward Asesu Argyfwng.
Mae'r newid pwysig hwn yn y model gwasanaeth a'r ethos clinigol yn rhoi mwy o bwyslais ar gymryd risgiau cadarnhaol ac, os oes modd, rheoli mwy o bobl yng ngofal y Timau Datrys Argyfwng a Thriniaeth Gartref yn eu cartrefi eu hunain, neu gyda chymorth yr Uned Adfer Argyfwng a'r Tŷ Argyfwng. Dim ond os nad yw'r opsiynau hyn yn bosibl yr ystyrir derbyn claf i'r Ward Asesu Argyfwng.
Nod y Ward Asesu Argyfwng yw bod tîm amlddisgyblaethol yn darparu asesiad a thriniaeth amserol ac yn ffurfio Cynllun Gofal a Thriniaeth i gefnogi arhosiad byr i glaf mewnol neu, os oes angen, ei drosglwyddo i un o'r tair Ward Ardal: