Mae Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn gweithio mewn partneriaeth rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd ynghyd â darparwyr eraill yn y sector gwirfoddol.
Mae'r Timau'n darparu gofal i oedolion o oed gwaith (18-65 oed) sydd â phroblemau iechyd meddwl ansefydlog cymedrol i ddifrifol.
Cynghorir bod unigolion sy'n cael anawsterau ysgafn i gymedrol neu'r rheini â symptomau sefydlog yn gweld y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol.
Yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, mae Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn gwasanaethu poblogaethau yn ôl eu meddygfa deulu.