Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Gweinyddol

 

Amseru apwyntiadau

Rhoddir yr holl amseroedd apwyntiadau i sicrhau ein bod yn parhau i ddilyn yr arfer gorau o ran y mesurau rheoli heintiau o fewn ein gwasanaeth ac i leihau unrhyw risgiau posibl o groes-heintio. Felly gofynnwn i chi fynychu apwyntiadau ar amser, gan werthfawrogi bod problemau parcio a/neu fwy o dagfeydd traffig weithiau’n golygu eich bod yn cyrraedd ychydig yn hwyrach nag amser eich apwyntiad. Os bydd hyn yn digwydd, a fyddech cystal â ffonio ein derbynfa cleifion allanol ar 02920 715950 i roi gwybod i ni pa mor hir yw’r oedi a’r amser rydych chi’n disgwyl cyrraedd y clinig fel y gallwn sicrhau bod ystafell ymgynghori briodol ar gael ar eich cyfer.


 

Apwyntiadau cleifion allanol a’r broses o ganslo

 

Rydym wedi ailgyflwyno ein gwasanaeth neges destun ac yn gobeithio y byddwch i gyd yn derbyn eich negeseuon atgoffa drwy neges destun. Os nad ydych yn derbyn nodyn atgoffa, cysylltwch â’r tîm gweinyddol a rhowch wybod i ni (ein rhifau yw: 02920 715987, 02920 715937, 02920 715936 a 02920 715938), fel arall rhowch wybod i staff ein derbynfa pan fyddwch yn dod i’ch apwyntiad; mae’n ddigon posibl eich bod wedi newid eich rhif ffôn symudol yn ddiweddar ac nad ydym yn gwybod eich rhif newydd.

Os na allwch fynychu unrhyw un o’ch apwyntiadau cleifion allanol sydd wedi’u trefnu, a allwch roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn gynnig yr apwyntiad i glaf CF arall.

 

Llythyrau gwyliau

Os oes angen llythyr gwyliau arnoch, yn ddelfrydol mae angen 2 wythnos o rybudd arnom. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi y gallai rhai ohonoch wneud trefniadau munud olaf ac felly rydym yn deall yr angen am rywfaint o hyblygrwydd.

Ffoniwch ni ar 02920 715936, 02920 715938 a 02920 715937 i wneud cais am lythyr gwyliau, gan roi gwybod i ni hefyd a hoffech iddo gael ei bostio atoch, neu a fyddwch yn ei gasglu o’r Ganolfan CF. Yn achos cais munud olaf, byddwch yn ymwybodol na allwn e-bostio hwn atoch yn bersonol, am resymau cyfrinachedd. Fodd bynnag, ar gyfer cleifion sy’n byw gryn bellter o’r Ganolfan CF, sy’n ei gwneud yn anodd ei gasglu pan na fydd llawer o amser cyn y daith, gallwn e-bostio’r llythyr teithio at eich Practis Meddyg Teulu mewn amgylchiadau arbennig sy’n eich galluogi i gasglu’r llythyr o’ch meddygfa.

Y Tîm Gweinyddol

 

Lisa THOMAS, Ysgrifennydd y Ganolfan CF

  Rhif ffôn: 02920 715937

 

Winnie CHUNG, Ysgrifennydd y Ganolfan CF

Rhif ffôn: 02920 715936

 

Anne JONES, Cydlynydd/Derbynnydd CF

Rhif ffôn: 02920 715987

 

Cerys GRIFFTHS, Clerc Cofnodi Data

Rhif ffôn: 02920 715945

 

Suzanne DYER, Ysgrifennydd y Ganolfan CF

Rhif ffôn: 02920 715938

 

Andrea KAYA, Cydlynydd/Derbynnydd CF

Rhif ffôn: 02920 715987

 

Hazel FUDGE, Clerc Cofnodi Data

Rhif ffôn: 02920 715945

 

Dilynwch ni