Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Blynyddol

Fe’ch gwahoddir i fynychu adolygiad blynyddol rhywbryd yn ystod y flwyddyn, a fydd gobeithio’n cael ei gynnal tua’r un mis â’r flwyddyn flaenorol.

Byddant yn glinig dan arweiniad nyrsys felly ni fydd unrhyw feddygon ar gael ar y diwrnod hwn. Yn fras, byddwch yn y clinig am 2 awr ac yn ystod yr amser hwn, byddwch yn cael eich gweld gan nyrs arbenigol, ffisiotherapydd, deietegydd, fferyllydd, gweithiwr cymdeithasol/gweithiwr ieuenctid a seicolegydd.

Gofynnwn, os nad ydych yn ddiabetig, i gyrraedd y clinig heb fwyta nac yfed o ganol nos. Yna byddwn yn gwneud y profion gwaed yn syth, gan gynnwys prawf drwy’r geg ar oddefiad i glwcos. Gallwch yfed dŵr a chymryd unrhyw feddyginiaeth.

Yn ystod eich amser yn y clinig, bydd aelodau’r tîm amlddisgyblaethol yn gofyn cwestiynau am eich iechyd ac yn llunio cynllun gyda chi ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Mae’n bosibl y gofynnir i chi ddod i gael pelydr-x ar y frest ac uwchsain o’r abdomen; byddwn yn ceisio’u trefnu ar yr un diwrnod â’ch apwyntiad. Mae’n bosibl y cewch hefyd apwyntiad ar gyfer sgan Dwysedd yr Esgyrn, yn yr adran Ffiseg Feddygol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Os nad ydych yn gallu mynd i’r apwyntiad, gofynnwn i chi gysylltu â nhw i aildrefnu neu ganslo - Dwysedd yr Esgyrn (Sgan DXA) - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (nhs.wales)

Yn dilyn eich adolygiad blynyddol, fe’ch gwahoddir yn ôl am apwyntiad dilynol lle bydd y meddyg ymgynghorol yn trafod eich holl ganlyniadau ac unrhyw ymholiadau a allai fod gennych.

 

Cynhelir adolygiadau blynyddol ar ddydd Mercher bob wythnos ond, os na allwch ddod ar ddyddiau Mercher, cysylltwch â ni i drefnu diwrnod arall.

Os na allwch fynychu eich apwyntiad adolygiad blynyddol neu’r apwyntiad dilynol, cysylltwch â ni ar 02920 715 946 i aildrefnu.

 

Dilynwch ni