Carwyn BRIDGES - Prif Ffisiotherapydd
Heather BRAID - Ffisiotherapydd Arbenigol
Sarah CAUNTER - Ffisiotherapydd CF Uwch
Catrin EVANS - Ffisiotherapydd Arbenigol
Aimee JOHNSON - Ffisiotherapydd CF Uwch
Steve HOWARD - Technegydd Ffisiotherapydd
Rachel YOUNG - Ffisiotherapydd CF Uwch
Vicki ANGULATTA - Cynorthwy-ydd Ffisiotherapydd
Os ydych yn mynychu clinig cleifion allanol ar gyfer treial cyffuriau, bydd eich Ffisiotherapydd CF yn trefnu dyddiad ac amser addas gyda chi i gynnal hyn. Bydd eich Ffisiotherapydd yn cysylltu â'r tîm meddygol ac yn trefnu presgripsiwn i'w anfon i'r fferyllfa yn YALl. Cyn eich treial, ewch i'r adran fferylliaeth i gasglu'r feddyginiaeth ragnodedig.
Os nodir hynny, fe'ch atgoffir i ddod â'ch peiriant nebiwleiddiwr gyda chi i'r apwyntiad. Os cewch bresgripsiwn am froncoledydd, gofynnir i chi ddod â hwn gyda chi i'ch apwyntiad.
Yn ystod eich apwyntiad treial cyffuriau, byddwn yn gwirio bod eich arsylwadau yn sefydlog ac yn cwblhau profion gweithrediad yr ysgyfaint. Byddwn yn siarad â chi am yr hyn y mae'r feddyginiaeth yn anelu at ei wneud, pryd a sut i'w chymryd, pryd i'w hatal a sut i'w storio. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi am unrhyw sgil-effeithiau nodedig. Bydd y Ffisiotherapydd yn ailadrodd eich prawf gweithrediad yr ysgyfaint 20 munud ar ôl i chi gwblhau eich treial cyffuriau ac yn adrodd yn ôl ar eich canlyniadau.
Mae prawf ymarfer corff yn ein galluogi i edrych ar eich calon, ysgyfaint a chyhyrau tra mewn cyflwr deinamig. Mae gwahanol fformatau o brofi ymarfer corff. Bydd tîm ffisiotherapi CF yn gallu nodi'r prawf cywir i chi boed hynny'n brawf cerdded chwe munud, yn brawf cerdded gwenoli aml-gam, neu'n brawf Ymarfer Corff Cardio-Pwlmonaidd (VO2max).
Mae'r prawf cerdded chwe munud yn golygu cerdded rhwng dau gôn am chwe munud tra'ch bod chi'n cael eich monitro. Gall prawf cerdded gwenoli aml-gam ddigwydd ar beiriant rhedeg neu ar lawr gwastad, a bydd yn golygu cynyddu cyflymder yn raddol nes cyrraedd y lefel uchaf. Mae eich ocsigen a chyfradd curiad y galon yn cael eu monitro. Mae prawf ymarfer cardio-pwlmonaidd (CPET) yn ein galluogi i wneud adolygiad cynhwysfawr o weithrediad eich calon, eich cyfradd anadlu a chryfder eich cyhyrau yn ystod prawf ymarfer corff mwyaf posibl yn seiliedig ar feic. Bydd pob prawf ymarfer corff yn galluogi'r tîm ffisiotherapi i helpu i'ch arwain o ran ragnodi ymarfer corff a gweithio gyda chi i wella eich swyddogaeth o ddydd i ddydd ac ansawdd eich bywyd.
Bydd y tîm ffisiotherapi yn cysylltu â chi cyn eich prawf ymarfer corff. Yn ddelfrydol, dylid cwblhau prawf ymarfer corff o leiaf unwaith y flwyddyn i gael canlyniadau ystyrlon ar eich CF. Dewch â dillad ac esgidiau ymarfer addas ar gyfer y prawf, potel o ddŵr a byrbryd ysgafn. Dylech osgoi bwyta pryd o fwyd trwm o fewn dwy awr cyn eich prawf, ac yn ddelfrydol ceisiwch osgoi unrhyw gaffein os yn bosibl. Wedi hynny bydd angen i chi aros am gyfnod byr o fonitro. Os ydych yn ddiabetig, gwnewch yn siŵr bod lefel y siwgr yn eich gwaed o fewn ystod arferol cyn eich prawf.