Neidio i'r prif gynnwy

Diabetes sy'n Gysylltiedig â Ffeibrosis Systig

Mae gennym ddau glinig diabetes a gynhelir ar fore'r 2il a'r 3ydd dydd Mawrth o bob mis.

Mae nifer yr achosion o ddiabetes sy'n gysylltiedig â ffeibrosis systig (CFRD) yn cynyddu gydag oedran. Mae data diweddar yn dangos bod CFRD yn effeithio ar dros 30% o oedolion sydd â CF.

Mae'r tîm CF arbenigol yn gweithio ochr yn ochr â thri meddyg ymgynghorol diabetes;

 Professor Susan WONG

 Dr Lindsay GEORGE

 Dr Maitrayee CHOUDRY

Unwaith y flwyddyn, bydd y meddygon ymgynghorol diabetes yn gwirio am unrhyw gymhlethdodau diabetes fel; rhannau o groen sydd wedi codi’n uchel, sydd wedi cael eu gor-ddefnyddio wrth chwistrellu inswlin, colli teimlad yn y traed. Byddant hefyd yn gofyn am sgrinio llygaid.

Mae gan y gwasanaeth CF Oedolion hefyd nyrs glinigol diabetes CF llawn amser arbenigol – Kelly WEBB
Bydd Kelly yn mynd gyda'r meddygon ymgynghorol diabetes yn ystod adolygiad clinigol a bydd yn gweithredu ar unrhyw beth y nodwyd bod angen gwneud gwaith dilynol arno, megis rhoi cyngor a sicrwydd, monitro glwcos neu ateb ymholiadau.

 

Taflen ffeithiau am ddiabetes sy'n gysylltiedig â ffeibrosis systig: CFRD - Cystic Fibrosis-Related Diabetes

Ffeithlen CFRD Medi 2017.pdf (cysticfibrosis.org.uk)

Dilynwch ni