Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i gleifion mewnol

Beth i’w ddisgwyl fel claf mewnol

Os oes angen i chi gael eich derbyn i’r ysbyty, efallai y bydd hyn wedi cael ei gynllunio ymlaen llaw neu gall ddigwydd yn sgil achos brys. Eich pwynt cyswllt cyntaf bydd y tîm CF, a fydd wedi trefnu i chi gael eich derbyn. Os yw’n dderbyniad mwy brys, lle efallai y gofynnwyd i chi ddod drwy’r Uned Achosion Brys yn gyntaf, bydd y tîm CF hefyd yno i roi cyngor nes y gellir eich symud i wely CF.

Trefnir bod yr holl dderbyniadau arferol a’r rhai nad ydynt yn frys yn dod i’n ward CF, lle mae 16 ystafell wely en-suite i osgoi croes-heintio. Mae hefyd gennym 4 ystafell wely en-suite heintiau arbennig (2 ar ward Gorllewin 2 a 2 ar ward Dwyrain 2) ar gyfer cleifion â Burkholderia cenocepacia neu Mycobacterium abscessus. Bydd eich gofal yn cael ei gydlynu gan y tîm amlddisgyblaethol: meddyg , nyrs, ffisiotherapydd, fferyllydd, deietegydd a staff ward, gyda mewnbwn gan arbenigeddau eraill yn ôl yr angen.

 

Ffisiotherapi yn ystod derbyniad

Dyma’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gan y ffisiotherapyddion CF yn ystod eich derbyniad.

Byddwch yn cael eich gweld o fewn pedair awr ar hugain o gyrraedd yr ysbyty. Bydd hyn fel arfer yn digwydd y diwrnod y byddwch yn cyrraedd y ward ond, os yw’n hwyr yn y prynhawn, mae’n bosibl y bydd rhaid aros tan y diwrnod canlynol. Bydd pob claf mewnol CF yn cael cynnig sesiynau dyddiol yn ein campfa i gleifion a/neu deithiau cerdded gyda’n cynorthwyydd ffisiotherapi o fewn tir yr ysbyty. Gallwn deilwra unrhyw ymarferion corff i siwtio pob claf unigol er mwyn sicrhau ein bod yn diwallu anghenion pawb.

 

Ar ôl cael eich derbyn, byddwn yn llenwi asesiad gyda’n gilydd. Gallai hyn gynnwys:
  • Siarad â chi am y rheswm pam eich bod chi yma.
  • Siarad â chi am eich trefn gartref ac unrhyw bethau sy’n mynd yn dda neu broblemau gyda’r drefn.
  • Profion clinigol fel swyddogaeth yr ysgyfaint, cymryd samplau sbwtwm a gwrando ar y frest.
  • Gofyn cwestiynau i chi ynghylch a oes gennych unrhyw broblemau sy’n gyffredin ymhlith pobl â CF fel problemau gyda’r cymalau neu gydag ymataliaeth.
  • Gwirio eich rwtîn ffisiotherapi i glirio’ch brest ac unrhyw ymarferion yr ydych yn eu gwneud.
  • Gwirio meddyginiaethau eich nebiwleiddiwr/anadlydd gan gynnwys unrhyw ddyfeisiau a’ch techneg yn eu defnyddio.
  • Trafod beth hoffech chi ei elwa o’r derbyniad a chynllunio eich triniaeth gyda chi.
  • Trafod ein hasesiad gyda gweddill y tîm CF fel eu bod yn gwybod am unrhyw broblemau.

 

 

Ar ôl cael eich derbyn, yn ystod eich arhosiad ac ar ddiwedd eich arhosiad:

Byddwn yn anelu at eich gweld ddwywaith y dydd. Efallai y bydd adegau lle byddwch chi neu ni’n teimlo nad oes angen ymweliadau ddwywaith y dydd.

 

Yn ystod eich arhosiad gallwn wneud y canlynol:
  • Gwirio ac, os oes angen, newid eich ffisiotherapi ar gyfer eich brest a rhoi gwybod i chi am unrhyw driniaethau/dyfeisiau newydd sydd ar gael.
  • Eich helpu i wneud eich ffisiotherapi ar y frest os oes angen.
  • Bydd pob claf yn cael cynnig y cyfle i ymarfer corff yn ein campfa neu i gael offer ymarfer corff yn eich ystafell.
  • Gwirio eich meddyginiaethau a’ch offer nebiwleiddiwr ac anadlydd, gwneud yn siŵr y gallwch eu defnyddio heb unrhyw broblemau a rhoi gwybod i chi am unrhyw driniaethau/dyfeisiau newydd sydd ar gael.
  • Profi unrhyw feddyginiaethau anadlu newydd gyda chi i wneud yn siŵr eu bod yn iawn i chi ac yn ddefnyddiol i chi eu cymryd.
  • Eich cyfeirio at y mannau cywir am gyngor os ydych yn cael problemau nad ydym yn delio’n uniongyrchol â nhw.
  • Monitro sut mae pethau’n mynd a gweithio gyda chi a gweddill y tîm CF i wneud yn siŵr eich bod yn cael y driniaeth orau bosibl.

 

Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael eich gweld cyn i chi fynd adref a byddwn yn:
  • Siarad â chi am sut brofiad oedd eich arhosiad.
  • Siarad â chi am eich cynllun ac unrhyw newidiadau sydd wedi’u gwneud.
  • Darparu siart triniaeth i chi sy’n manylu ar eich trefn gartref os ydych chi’n meddwl y byddai hyn o ddefnydd i chi.
  • Cynnal profion clinigol rheolaidd fel gweithrediad yr ysgyfaint, cymryd samplau sbwtwm a gwrando ar y frest i wirio pa mor dda ydych chi wedi ymateb i’r driniaeth.
  • Gwirio’r ffisiotherapi i glirio’ch brest a’r ymarferion yr ydych yn bwriadu parhau i’w gwneud gartref.
  • Edrych ar eich nebiwleiddwyr a’ch anadlyddion a gwneud yn siŵr y gallwch eu defnyddio heb unrhyw broblemau.
  • Gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi gwybod i weddill y tîm CF beth rydym wedi’i wneud yn ystod y derbyniad a’r hyn sydd wedi’i gynllunio ar gyfer adref.
Dilynwch ni