Neidio i'r prif gynnwy

Clefyd yr Afu a CF


Bydd gan tua 40% o bobl â CF rai abnormaleddau ar yr afu. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig ragor o wybodaeth am glefyd yr afu sy’n gysylltiedig â CF. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth gan yr Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig yma - Cystic fibrosis and liver disease - facts and symptoms

Yng Nghanolfan Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion, cynhelir y clinigau CF-Afu ar y cyd bob chwarter trwy gydol y flwyddyn. Rydym yn ffodus i gael Dr Andrew Yeoman, Hepatolegydd Ymgynghorol, yn rhan o glinigau yr afu sy’n ymwneud â CF.

Mae’r tîm Ffeibrosis Systig yn gweithio ochr yn ochr â Dr Yeoman a gellir cysylltu ag ef os oes gennym unrhyw ymholiadau neu bryderon mewn perthynas â gweithrediad yr afu ar ran unrhyw glaf. Mae Dr Yeoman hefyd yn cefnogi’r broses atgyfeirio a’r monitro parhaus ar gyfer cleifion y gallai fod angen trawsblaniad yr afu arnynt

Mae ymchwiliadau sy’n rhan o’r asesiad adolygu blynyddol ac ar gyfer gwyliadwriaeth barhaus fel sganiau uwchsain yr afu ac ARFI (Acoustic radiation force impulse) yn hanfodol wrth asesu’r afu a gwerthuso ffeibrosis a sirosis yr afu. Mae’r ymchwiliadau hyn ar gael yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

 

Liver disease factsheet Sep 2017.pdf (cysticfibrosis.org.uk) 

Dilynwch ni