Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Fferylliaeth Ffibrosis Systig

 

 Mari LEA-DAVIES Fferyllydd Arweiniol CF

 

 Rachael FEALEY Fferyllydd CF

 

 Lowri THOMAS Fferyllydd CF

 

Gellir cysylltu â'r fferyllwyr CF ar 02921 825933. 

Gellir cysylltu â'r adran Fferylliaeth yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ar 02921 825261. 

Oriau agor y fferyllfa yn Ysbyty Athrofaol Llandochau: 

Dydd Llun i ddydd Gwener: 8.45am i 5pm 

Dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc (ac eithrio Dydd Nadolig): 9am i 12.45pm 

Mae’r tîm fferylliaeth CF sy'n cynnwys fferyllwyr, technegwyr fferyllol a swyddogion technegol cynorthwyol yn ymwneud â phob agwedd ar driniaeth â meddyginiaethau. Bydd fferyllydd CF yn eich gweld yn eich apwyntiad adolygu blynyddol i adolygu'ch meddyginiaeth. 

Byddwch yn cael eich gweld gan y tîm fferylliaeth CF os ydych yn glaf mewnol i drafod eich meddyginiaethau ac i gael unrhyw feddyginiaethau y gallai fod eu hangen arnoch. Mae’r tîm fferylliaeth CF hefyd yn cysylltu â’r Tîm Gofal Cartref Fferylliaeth, sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru, i drefnu bod rhai meddyginiaethau arbenigol yn cael eu darparu’n uniongyrchol i chi gartref drwy ddarparwr gofal cartref. 

Dilynwch ni