Neidio i'r prif gynnwy

Deieteg

Mae maeth da a phwysau corff iach yn gysylltiedig â gwell gweithrediad yr ysgyfaint a heintiau llai aml ar y frest i bobl â Ffeibrosis Systig. Mae eich tîm deieteg CF yma i’ch cefnogi ym mhob agwedd ar eich gofal maethol CF. Rydym yn gweithio’n agos gyda phob aelod o’ch tîm CF gan gynnwys Nyrsys, Meddygon, Ffisiotherapyddion, Seicolegwyr, Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Ieuenctid, Fferyllwyr a thimau diabetes arbenigol CF a’r afu. Yn ogystal, os oes angen cymorth arnoch gan feysydd arbenigol eraill o ran gofal maethol, mae gennym gysylltiadau agos â’n Deietegwyr Arbenigol eraill yng Nghymru a’r DU.

 

Eich Tîm Deieteg CF
 

 David PROUD - Deietegydd CF Arweiniol i Oedolion

 Chloe KNORZ - Deietegydd CF Arbenigol Locwm

 Megan DOUGLAS - Uwch Ddeietegydd CF Arbenigol

 Bea POTOCKA - Gweithiwr Cymorth Deieteg

 Jen SOFFE - Deietegydd CF Arbenigol

 Nikki CLINCH - Gweithiwr Cymorth Deieteg

 

Os oes angen i chi gysylltu â’ch tîm deieteg CF, ffoniwch eich tîm Nyrsys CF ar 07875 565699 a byddan nhw’n cysylltu â ni.

 

Beth allwch chi ei ddisgwyl wrth ymweld â’ch Deietegydd?

 

  • Byddwn yn gofyn i chi am eich archwaeth bwyd a beth rydych yn ei fwyta a’i yfed ar hyn o bryd.
  • Os oes angen i chi gymryd ensymau pancreatig, byddwn yn trafod pa mor effeithiol ydynt i chi ac yn eich helpu i addasu eich dos i’r bwydydd rydych chi’n eu bwyta.
  • Os oes angen i chi gymryd fitaminau atodol, gallwn roi gwybodaeth i chi am yr amser gorau o’r dydd i’w cymryd, a rhoi mwy o fanylion i chi ynghylch pam eu bod yn bwysig.
  • Os oes angen i chi fagu neu golli pwysau, byddwn yn eich cefnogi i wneud newidiadau i’ch deiet i gyflawni hyn.
  • Byddwn yn mesur eich pwysau a’ch taldra sy’n ein galluogi i gyfrifo mynegai màs y corff (BMI).
  • Gallwn gynnig yr opsiwn i chi o asesu cyfansoddiad y corff, megis màs y cyhyrau a mesur cryfder gafael dwylo, gan eich cefnogi gyda’ch nodau iechyd a ffitrwydd.
  • Os ydych chi’n cael trafferth cynnal eich pwysau, gallwn siarad â chi am atchwanegiadau trwy’r geg neu fwydo trwy diwb, a’ch cefnogi i benderfynu a yw hyn yn rhywbeth a fyddai’n iawn i chi.
  • Os ydych chi’n cael eich bwydo trwy diwb, byddwn ni’n trefnu hyfforddiant i chi a’ch teulu er mwyn i chi allu rheoli’r bwydo yn annibynnol.
  • Os byddwch yn datblygu diabetes sy’n gysylltiedig â CF, byddwn yn cysylltu â’r nyrs diabetes arbenigol ac yn eich helpu i reoli eich deiet ac inswlin.

 

Adnoddau Maeth Defnyddiol:

Magu pwysau iach mewn ffeibrosis systig -Achieving a healthy weight in CF

Calsiwm ac iechyd esgyrn mewn ffeibrosis systig - Calcium and bone health in CF

Alcohol a CF - Drinking alcohol and CF

Ymarfer Corff a CF - Exercise nutrition in CF

Problemau GI a CF - Gastrointestinal issues in CF

Bwyta’n iach a CF - Healthy eating and CF

Haearn yn y deiet CF - Iron in the CF diet

Gadael cartref a bwyta’n dda gyda CF - Leaving home and eating well with CF

Beichiogrwydd a CF - Nutrition and pregnancy in CF

PERT a CF - Pancreatic enzyme supplement and CF

Maeth ar ôl trawsblaniad yr ysgyfaint ar gyfer pobl â CF - Postlung transplant nutrition for people with CF

Halen yn y deiet CF - Salt in the CF diet

Yfed digon gyda CF - Staying hydrated and CF

Fitaminau atodol a CF - Vitamin supplements in CF

Llyfryn delwedd y corff Ymddiriedolaeth CF - body-image-and-cystic-fibrosis-booklet

 

Ffeithiau Bwyd Cymdeithas Ddeieteg Prydain:

Mae’r Taflenni Ffeithiau Bwyd sydd ar gael am ddim ar wefan BDA wedi’u hysgrifennu gan Ddeietegwyr i’ch helpu i ddysgu’r ffyrdd gorau o fwyta ac yfed i gadw’ch corff yn ffit ac yn iach.

Fodd bynnag, nid yw’r taflenni ffeithiau hyn yn mynd i’r afael yn benodol ag anghenion person sydd â CF ac felly dylid eu hystyried fel gwybodaeth yn unig. Siaradwch â’ch Deietegydd CF os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Ffeithiau Bwyd | Cymdeithas Ddeieteg Prydain (BDA)

 

Dilynwch ni