Dr Ian KETCHELL
Dr Charlotte ADDY
Dr Jamie DUCKERS
Dr Anna SAYERS
Dr Dawn LAU
Dr Philippa GOBLE
Dr Ian Ketchell - Ian yw Cyfarwyddwr y Ganolfan CF i Oedolion ac mae wedi bod yn ei swydd ers mis Medi 2005. Yn ogystal ag arwain y gwasanaeth CF, mae Dr Ketchell hefyd yn gweithio fel archwiliwr meddygol i GIG Cymru.
Dr Jamie Duckers - Ymunodd â'r tîm ym mis Tachwedd 2009 ac ef yw arweinydd Rhaglen Ymchwil y Ganolfan CF. Ef yw arweinydd clefydau prin Cymru.
Dr Dawn Lau - Ymunodd â'r tîm ym mis Ebrill 2012 ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn addysg Israddedig ac Ôl-raddedig. Hi yw arweinydd israddedig presennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Dr Charlotte Addy - Ymunodd â'r tîm ym mis Medi 2020, ar ôl gweithio'n flaenorol yng Nghanolfannau CF i Oedolion Belfast a Bryste. Mae ganddi ddiddordebau mewn addysg feddygol, cynllunio'r gweithlu ac ymchwil glinigol. Hi yw Cadeirydd presennol pwyllgor gweithlu Cymdeithas Thorasig Prydain, ac mae'n eistedd ar eu bwrdd.
Mae Dr Anna Sayers a Dr Philippa Goble ill dau yn gweithio’n benodol mewn CF, gan ddarparu gwasanaeth ar draws clinigau a'r ward. Yn ogystal â gweithio'n agos gyda'r tîm meddygon ymgynghorol, maent yn darparu cefnogaeth i feddygon iau ar y ward, ac i weddill y tîm CF.
Ymunodd Dr Anna Sayers â'r tîm ym mis Awst 2016, ac mae'n gyfrifol am gyflwyno sgrinio'r coluddyn ar gyfer y boblogaeth CF sy'n oedolion yn y gwasanaeth.
Ar draws AWACFC mae gennym feddygon dan hyfforddiant neu feddygon iau yn gweithio ar y wardiau ac yn y clinig. Mae'r staff hyn yn aelodau hanfodol o'n tîm, ac yn helpu i ddarparu eich gofal. Mae gennym hefyd fyfyrwyr meddygol/nyrsio/ffisiotherapi, meddygon dan hyfforddiant a therapyddion cylchdroi sy'n treulio amser gyda ni i ddysgu am fyw gydag CF a gofalu am bobl â CF, y mae’n bosibl y byddwch yn eu cyfarfod. Mae eu helpu i ddeall mwy am CF, yn eu helpu i ofalu am bobl â CF yn y dyfodol, a gallai ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o aelodau’r tîm CF.