Neidio i'r prif gynnwy

Mae dal yn bwysig sicrhau eich bod yn mynychu eich holl sgriniadau arferol e.e. mamogramau, sgrinio serfigol, sgrinio'r prostad, sgrinio'r coluddyn a sgriniadau eraill perthnasol.

Pan fyddwch chi'n byw gydag MS, mae yna lawer o ffyrdd i wella'ch iechyd ar wahân i feddyginiaethau.

Mae bwyta'n iach yn bwysig. Mae llawer o adroddiadau am wahanol ddeietau y mae pobl yn rhoi cynnig arnynt ar gyfer MS a gall fod yn ddryslyd penderfynu pa ddeiet sydd orau. Mae astudio'r deiet gorau ar gyfer MS yn heriol, felly mae data o ansawdd da yn brin. Mae hefyd yn wir y gall cyfyngu ar eich deiet mewn ffordd eithafol iawn gyflwyno straen diangen ychwanegol i'ch bywyd.

Ar y cyfan, rydym yn argymell deiet Môr y Canoldir, sy'n cynnwys llawer o ffrwythau, llysiau, pysgod, cnau a hadau, ac sy’n isel mewn cynnyrch llaeth a chig coch. Mae llawer o bobl ag MS yn dewis ychwanegu fitamin D at eu diet gan fod rhywfaint o dystiolaeth (er yn wan) bod fitamin D yn helpu i wella canlyniadau MS. Os dewiswch ychwanegu fitamin D at eich deiet, rydym yn argymell dos o 4-500IU y dydd.

 

Ymarfer corff

Yn y gorffennol, cynghorwyd pobl â sglerosis ymledol i osgoi gormod o ymarfer corff. Teimlwyd, gan fod llawer o bobl ag MS yn profi blinder ac yn canfod bod eu symptomau'n gwaethygu pan fyddant yn boeth, ei bod yn well osgoi gweithgareddau y gellid ystyried eu bod yn peri blinder.

Mae'n debyg nad oedd hwn yn gyngor da. Erbyn hyn, gwyddys bod ymarfer corff rheolaidd, cymedrol yn rhan bwysig o gynnal iechyd a lles da i bobl ag MS. Mae tystiolaeth y gall helpu gyda llawer o symptomau MS, a hefyd gydag ansawdd bywyd cyffredinol.

Dangoswyd bod ymarfer corff cymedrol yn gwella cryfder, symudedd a gweithrediad y coluddyn a'r bledren ar gyfer pobl ag MS ysgafn i gymedrol. Mae ymarfer corff hefyd yn ddefnyddiol wrth helpu i gynnal pwysau iach. Mae hyn yn lleihau eich siawns o gael cydafiacheddau a gall hefyd leihau effaith rhai symptomau MS, fel poen a blinder.

Mae ymarfer corff yn dda i'r meddwl a'r ymennydd, nid y corff yn unig. Yn gyffredinol, canfuwyd bod ymarfer corff yn niwro-amddiffynnol, yn gwella symptomau iselder ac yn cyflymu prosesu gwybyddol, ac yn gwella cof gweledol-ofodol, swyddogaeth weithredol a hyblygrwydd gwybyddol. Gall yr hwb y byddwch chi’n ei gael o wneud ymarfer corff bara am sawl diwrnod wedi hynny.

Os oes angen cyngor arnoch ar sut i gadw'n gorfforol egnïol, cysylltwch â'n tîm. 

 

Cwympiadau

Gall unrhyw un gwympo waeth beth fo'u hoedran neu eu cyflwr meddygol, er bod gan bobl â sglerosis ymledol fwy o risg o gwympo. Yn y rhan fwyaf o achosion a adroddir, nid yw cwympiadau yn achosi unrhyw niwed difrifol heblaw am ychydig o embaras a chywilydd o bosib. Fodd bynnag, gall canlyniadau cwympiadau fod yn ddifrifol, yn amrywio o ofid a cholli hyder, i anafiadau, poen a cholli annibyniaeth. Mae ymchwil yn dangos, efallai’n syndod, fod y rhan fwyaf o gwympiadau ymhlith pobl ag MS yn digwydd y tu mewn i’r cartref.

 

Atal - Atal Cwympiadau - Cadw Fi'n Iach

 

Gwybodaeth - Cwympiadau | Ymddiriedolaeth MS

 

Beth i'w wneud os byddwch chi'n cwympo - Cwympiadau - GIG

 


Alcohol

Cynghorir eich bod ond yn yfed alcohol o fewn y terfynau a argymhellir (14 uned yr wythnos). Mae hyn oherwydd bod gormod o alcohol yn wael i iechyd cyffredinol yr ymennydd, ac felly gallai waethygu'ch MS mewn egwyddor.

 

Rhoi'r gorau i ysmygu

Ar wahân i effeithiau andwyol cyffredinol ar iechyd, mae tystiolaeth bod ysmygu tybaco yn wael i MS. Os hoffech gael cyngor neu gymorth i roi'r gorau i ysmygu, ewch i'n tudalennau Rhoi'r Gorau i Ysmygu neu cysylltwch â'r tîm Helpa Fi i Stopio.

 

Cwsg/Straen

Gall derbyn diagnosis o MS a byw gyda symptomau o ddydd i ddydd roi straen ar bobl, sy’n gwbl ddealladwy. Mae rhoi amser i chi'ch hun yn bwysig iawn i'ch galluogi i addasu a lleihau straen. Os ydych chi'n cael problemau i addasu i'ch diagnosis neu reoli straen, edrychwch ar rai o'r adnoddau hunangymorth isod a rhowch wybod i ni os hoffech chi siarad am atebion posibl eraill.

 

Gwybyddiaeth

Os ydych yn cael trafferth gyda'ch cof a'ch meddwl, cysylltwch â'ch nyrs MS a gallwn drafod eich achos a rhoi cyngor. (link to NeuroMS resources).

 

Adnoddau hunan-dywys

Bydd eich meddyg teulu yn gallu archwilio opsiynau cymorth iechyd meddwl gyda chi a, than hynny, mae adnoddau hunan-dywys ar gael i chi eu defnyddio ar eich cyflymder eich hun.

 

Mae C.A.L.L yn llinell gymorth iechyd meddwl sydd ar gael 24/7 - 0800 132 737/  Call@helpline.wales

Efallai y bydd yr adnoddau iechyd meddwl hyn hefyd yn gallu bod o gymorth

Cwnsela:   https://ccaws.org.uk/counselling 

Cwnsela: https://concerncymru.org.uk/  

Sgiliau TIPP:  https://dialecticalbehaviortherapy.com/distress-tolerance/tipp/ 

Stepiau: https://www.stepiau.org/en/self-help.

Adnoddau Gorbryder NHS Inform: https://www.nhsinform.scot/illnesses-and-conditions/mental-health/mental-health-self-help-guides/anxiety-self-help-guide

Get Self Help:  https://www.getselfhelp.co.uk/self-help/

Rhaglenni CBT ar-lein SilverCloud: https://cavuhb.nhs.wales/our-services/mental-health/silvercloud/

Technegau Rheoli Gorbryder (ar sail DBT): https://neurolaunch.com/dbt-stress-management/ 

4Winds:https://4winds.org.uk/training-courses/.Mae 4Winds yn cynnal cyrsiau am ddim ar bynciau fel rheoli gorbryder, ymwybyddiaeth ofalgar a rheoli dicter.

Coleg Adfer a Lles Caerdydd a'r Fro: https://cavuhb.nhs.wales/our-services/welcome-to-the-cardiff-and-vale-recovery-wellbeing-college/

cavuhb.nhs.wales/files/recovery-wellbeing-college/summerprospectus2025e/

MS Together:  Welcome to MS Together

 

 

Grwpiau 

Staying Smart | Ymddiriedolaeth MS??

Byw'n Dda gydag MS: 

Cwrs Cydweithredol 

 

 

Mae Rhaglenni Addysg i Gleifion (EPP Cymru)

Mae Rhaglenni Addysg i Gleifion (EPP Cymru) yn darparu amrywiaeth o gyrsiau hunan-reoli ar gyfer pobl sy'n byw gyda chyflwr/cyflyrau iechyd hirdymor a’u gofalwyr.

Mae ein cyrsiau hunan-reoli yn cefnogi pobl i fagu’r hyder ac i gael yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i’ch helpu i reoli cyflwr mewn partneriaeth â'ch gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.

Rhaglenni Addysg i Gleifion - Perfformiad a Gwelliant GIG Cymru

 

Byw'n Dda gydag MS: 

Cwrs Cydweithredol 

Wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth ag EPP Cymru, MS Cymru, Cleifion sy'n byw gyda MS a Gweithwyr Gofal Iechyd proffesiynol, mae'r cwrs ar-lein hwn yma i'ch cefnogi chi sy'n byw gyda MS. Caiff y cwrs hwn ei ddarparu gan EPP Cymru. 

Mae sesiwn groeso cyn-cwrs fer i sicrhau bod y dechnoleg wedi'i gosod, cyflwyno nodweddion y cwrs, a chyfarfod â'r hwyluswyr ynghyd â chyfranogwyr eraill. Yna mae pob un o'r 6 wythnos o'r cwrs yn sesiynau 2.5 awr. 

 

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu: 

Rheoli blinder 

Atal cwympiadau 

Ymarfer corff a maeth 

Rheoli poen a symptomau 

Datrys problemau a gwneud penderfyniadau 

Technegau meddwl-corff 

Cofrestrwch: e-bostiwch mscymru@mssociety.org.uk   

 

Adnoddau defnyddiol

  • Mae'r Gymdeithas MS yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau cymorth rhithwir, gan gynnwys gweminarau gwybodaeth, caffi sgwrsio, cyrsiau lles a sesiynau sgiliau lles.
  • Mae gan y Gymdeithas MS wybodaeth am gadw'n heini, gan gynnwys manteision ymarfer corff, fideos ymarfer corff syml ac ymarferion ar gyfer symptomau penodol.
  • Mae gan NHS UK ystod o ganllawiau ymarfer corff a sesiynau ymarfer corff i helpu i wella'ch ffitrwydd a'ch lles.
  • Mae'r Ymddiriedolaeth Sglerosis Ymledol yn elusen yn y DU sydd â chyfoeth o wybodaeth am MS a byw gydag MS.
  • Mae Stepiau yn wasanaeth a ddatblygwyd gan y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol (PMHSS) ar gyfer pobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg sy'n byw gydag anawsterau iechyd meddwl fel straen, gorbryder, neu iselder.
  • Mae Valleys Steps yn cynnig cyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar a lles.
  • Mae NHS UK Every Mind Matters yn cynnig cyngor arbenigol ac awgrymiadau ymarferol i'ch helpu i ofalu am eich lles meddyliol a'u gwneud yn rhan o'ch trefn ddyddiol.
  • Mae MS-UK yn elusen genedlaethol sy’n rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i helpu'r rhai y mae MS yn effeithio arnynt i fyw bywyd iachach a hapusach
  • Mae Shift.ms yn cynnig cefnogaeth a chyngor gan eraill sy'n byw gydag MS

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni