Neidio i'r prif gynnwy

Camweithrediad rhywiol

Weithiau gall sglerosis ymledol gael effaith ar agosatrwydd a rhywioldeb. Gall symptomau amrywiol ymyrryd â chydberthnasau a gweithgaredd rhywiol. Mae rhai cleifion sydd wedi canfod bod rhyw yn broblem iddyn nhw wedi ei chael hi'n ddefnyddiol trafod hyn gyda'u gweithiwr iechyd proffesiynol, ac wrth wneud hynny wedi sylweddoli nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain yn hyn o beth, ac y gall pethau syml helpu gan amlaf. Rydym yn deall y gallai fod yn anodd i bobl siarad am faterion rhywiol y gallent fod yn eu profi. Gallwn eich sicrhau, os hoffech siarad, bod gennym glinigau sy'n breifat ac yn gyfrinachol.

Dilynwch ni